Mae ein Dyddiau Rhagolwg yn cynnwys dangosiadau o ffilmiau a grëwyd yng Nghymru, ffilmiau Cymraeg eu hiaith a ffilmiau archif Cymreig sydd ar y gorwel, sydd wedi'u cynllunio i gefnogi rhaglennu'n ehangach a chyrhaeddiad ffilmiau sydd â chysylltiadau Cymreig.
Mae'r digwyddiadau yn arbennig i aelodau Canolfan Ffilm Cymru ac aelodau o Ganolfannau Ffilm ledled y DU. Rydym yn darparu pecynnau gwybodaeth i bawb sy'n mynychu, ac yn cynnig cyfleoedd i rwydweithio mewn gwanhaol ganolfannau ledled y wlad. Gall Canolfan Ffilm Cymru hefyd gynnig cyllid tuag at warantu lleiafswm, marchnata a / neu gyfrannu tuag at gostau digwyddiad lle fo talent ar gael.
Digwyddiadau i Ddod...
Dim digwyddiadau.
As part of the collective BFI Film Audience Network, there are a range of short and long training courses and events to help FHW Members reach new audiences, develop business models, be more accessible, make your activity more environmentally sustainable and much more.
Digwyddiadau i Ddod...
ICO Spring Screening Days 2026 – 13 to 15 March 2026: BFI Southbank, London a 16 to 22 March 2026: Online
BFI FAN: Developing Your Sponsorship Strategy
4 Nov – 5 Dec – Make your film festival or venue stand out to sponsors and financial partners with a new short course for BFI FAN members. Register by 10 October.
BFI FAN Webinar: Curating Disability with SQIFF and We Crip Film
3 Dec – Marking International Disabled People’s Day on 3rd December, the next BFI FAN Equality, Diversity & Inclusion webinar will support you to meaningfully embed disability-focused programming within your screenings and events.
Ein digwyddiad blynyddol i arddangoswyr ffilm ar draws Cymru.
Mae’r digwyddiad, a gynhelir ym mis Mawrth bob blwyddyn, yn cynnig cyfle i ddal i fyny â chydweithwyr arddangosfeydd a chael ysbrydoliaeth ym mhrosiectau ein gilydd, trwy sesiynau rhyngweithiol byr. Mae’r digwyddiad hefyd yn gyfle i Ganolfan Ffilm Cymru roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y cyllid a fydd ar gael i Aelodau* ar gyfer y flwyddyn i ddod.
*Mae'r digwyddiad hwn ar gyfer Aelodau BFI FAN yn unig. Os nad ydych yn aelod, you can join here.
Digwyddiadau i Ddod...
Dim digwyddiadau.
Ein cyfarfod rheolaidd i arddangoswyr siarad am y ffilmiau diweddaraf sydd â chysylltiadau Cymreig, cwrdd â dosbarthwyr, gwneuthurwyr ffilm a chael gwybod am asedau GYNg.
Darllenwch fwy am ein strategaeth Gwnaethpwyd yng Nghymru yma.
Digwyddiadau i Ddod...
Dim digwyddiadau.
Rydyn ni’n creu amser i siarad am ffilmiau!
Ymunwch â ni ar-lein ar gyfer ein cyfarfodydd rhaglennu chwarterol lle byddwn yn siarad am ddetholiad o ffilmiau annibynnol a rhyngwladol newydd gorau Prydain.
Cynhelir y sesiynau gan y curadur Rachel Pronger. Bydd awgrymiadau ffilm ar gyfer eich rhaglen sydd i ddod, a chael amser i sgwrsio gyda chyfoedion am y ffilmiau rydych chi’n edrych ymlaen at eu gweld a darganfod ffilmiau y byddech fel arall yn eu colli. Byddwn hefyd yn trafod sut i raglennu a marchnata’r ffilmiau.
Bydd y sesiynau hyn yn rhedeg bob chwarter i'ch cefnogi gyda datblygiad cynulleidfa gydol y flwyddyn. Mae croeso i arddangoswyr o bob math – byddwn yn archwilio’r ffordd orau o wneud y sesiynau’n ddefnyddiol i bawb.
Ynglŷn â Rachel
Mae Rachel Pronger yn guradur, ysgrifennwr ac ymgynghorydd rhaglen. Cychwynnodd ei gyrfa yn gweithio ym maes cyfathrebu i Ŵyl Ffilmiau Llundain y BFI, Picturehouse Cinemas a Chanolfan Ffilm yr Alban, cyn symud i faes rhaglennu yn Alchemy Film & Arts, Tyneside Cinema, Sheffield DocFest ac Aesthetica Short Film Festival. Fel cyd-sylfaenydd cymundod ffilm ffeminist Invisible Women, mae Rachel wedi cyd-guradu rhaglenni a chynnal digwyddiadau ar gyfer partneriaid megis BFI Southbank, Cinema Rediscovered, Eye Filmmuseum Amsterdam, BalkanCanKino Athens, HOME Manceinion a Glasgow Film Theatre. Mae ei gwaith ysgrifenedig am ffilm wedi cael ei gyhoeddi gan gwmnïau megis Sight & Sound, The Guardian, MUBI Notebook, Little White Lies a BBC Culture. Mae hi hefyd yn rheolaidd yn cadeirio sesiynau holi ac ateb, paneli a gweithdai sy’n ffocysu ar ffeministiaeth, archifo a hanes ffilm.
Digwyddiadau i Ddod...
Pryd: Dydd Iau 22 Ionawr 2026, 10am-12pm
Ble: Ar-lein (Zoom)
Pryd: Dydd Iau 23 Ebrill 2026, 10am-12pm
Ble: Ar-lein (Zoom)
Pryd: Dydd Iau 23 Gorffennaf 2026, 10am-12pm
Where: Online (via Zoom)