Amdanom ni

© Mission Photographic / Anim18

Mae Canolfan Ffilm Cymru (CFfC) yn dathlu sinema. Rydym yn ariannu, hyfforddi a chynghori sefydliadau sy'n sgrinio ffilm yng Nghymru, o wyliau ffilm i gymdeithasau a chanolfannau celfyddydau cymysg. Wrth gyd-weithio gyda dros 260 o arddangoswyr o Gymru,, ein bwriad ydy cynnig y ffilmiau Prydeinig a rhyngwladol gorau i bob cynulleidfa ar draws Cymru a’r DU. Roeddem hefyd yn falch o arwain strategaeth Inclusive Cinema y DU ar ran FAN BFI 2017-23.

Rydym yn rhan o rwydwaith wyth canolfan yn y DU a gyllidir gan y Sefydliad Ffilm Prydeinig (BFI) fel rhan o Rhwydwaith Cynulleidfa Ffilm (FAN). Mae Chapter wedi’i benodi fel y Corff Arwain Canolfan Ffilm (FHLO) yng Nghymru. Cymerwch olwg ar rai o'r uchafbwyntiau hyd yma uchafbwyntiau hyd yma i ddarganfod beth rydyn ni wedi'i ariannu yn y gorffennol a phrosiectau rydyn ni wedi'u creu.

Os ydych chi'n sgrinio ffilmiau i gynulleidfa gyhoeddus, gallwch ddod yn aelod ac elwa o'n hymchwil, cyrsiau hyfforddi, bwrsariaethau, cronfeydd, cyngor a mwy. Os ydych chi'n wneuthurwr ffilmiau, edrychwch ar ein daflen gymorth i wneuthurwr ffilmiau a dosbarthwyr i gael cyngor ar sut y gallwn hyrwyddo eich ffilm i'n rhwydweithiau.

Dewiswch dab i weld...

Diolch i arian y Loteri Genedlaethol, ers sefydlu Canolfan Ffilm Cymru yn 2013, rydyn ni wedi cefnogi dros 410 o brosiectau sinema, gan gyrraedd dros 758,692 o aelodau'r gynulleidfa. Take a look at some of the highlights to date as well as some special ten year video messages from our members: 

Uchafbwyntiau'r Gorffennol

  • Annual highlights 2025/2026
    O daith Gŵyl Animeiddio Caerdydd ledled Cymru yn dangos y clasur Cymraeg animeiddiedig, i'r Llusern Hud (the Magic Lantern) a enillodd wobr gyntaf Sinema’r Flwyddyn BIFA, mae 2025 wedi bod yn llawn dop â gweithgareddau ar y sgrin fawr! Rydych chi wedi bod yn brysur yn gweithio ar ddigwyddiadau fforddiadwy a hygyrch a ddaeth â'r ffilmiau annibynnol y DU a ffilmiau rhyngwladol gorau i gymunedau lleol.
  • Uchafbwyntiau 2024/25
    O Anora i Flow, yn ystod 2024 fe wyliodd cynulleidfaoedd Cymru ffilmiau annibynnol y DU a’r ffilmiau rhyngwladol diweddaraf yn eu cymunedau lleol, am brisiau fforddiadwy. O ddangosiadau ymlaciedig a ffilmiau i’r teulu, i sinema eco a’r ffilmiau Cymreig diweddaraf, fe roddodd eich canolfannau chi ddigon o ddewis i gynulleidfaoedd. Fe agorwyd sgriniau newydd, gan gynnwys ailddatblygiad gwerth miliynau o bunnoedd Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen yn Neuadd y Dref Maesteg a ‘Sgrin Emyr Ankst’ newydd Cellb a agorwyd er cof am yr arloeswr cerddoriaeth a sinema, Emyr Glyn Williams.
  • Uchafbwyntiau 2023/24
    Mae 2023/24 wedi bod yn flwyddyn brysur arall, o deithio ffilmiau byr animeiddiedig, i ffilmiau teulu am ddim a hyd yn oed glasur gwaed o'r 90au mewn clwb nos. I'r rhan fwyaf ohonoch chi, mae'r ffocws wedi bod yn mynd yn ôl i fusnes rhaglennu ffilmiau ac arwain sesiynau cymunedol lleol, lle gallech ddod i adnabod eich cynulleidfaoedd.
  • Uchafbwyntiau 2022/23
    Daeth 2022 â heriau newydd, o fywyd ar ôl Covid, i argyfwng costau byw ond fe wnaethoch barhau i ddod â phrofiadau ffilm i gymunedau ledled Cymru. O Ŵyl newydd Windrush yng Nghasnewydd, i ddangosiadau stryd lleol yng Nglan-yr-afon, daeth cynulleidfaoedd ynghyd i gefnogi eu sinemâu lleol.
  • Uchafbwyntiau 2021/22
    Yn ystod ansicrwydd byd-eang, fe wnaethoch chi groesawu cynulleidfoedd yn ôl i rannu hud cymunedol y sinema drwy ddangosiadau a digwyddiadau ymgysylltu. Fe wnaethoch chi ddathlu diwylliant Cymru drwy ffilmiau Cymreig, rhoi llwyfan i straeon oedd yn llai adnabyddus drwy raglenni wedi’u curadu a chodi ymwybyddiaeth drwy gyrsiau a thrafodaethau.
  • Uchafbwyntiau 2020/21
    Mae hi wedi bod yn flwyddyn a hanner. Rydych chi wedi mynd yn rhithiol, awyr agored ac wedi ailddychmygu eich modelau busnes. Rydych wedi troi eich sinemau yn fanciau bwyd, wedi cynnig cyflenwi meddyginiaethau ac wedi bod wrth law i roi cefnogaeth emosiynol i’ch cymunedau yn ystod yr ynysu. Rydych wedi dangos gwytnwch, nifer ohonoch yn parhau i ddatblyu ffyrdd o gyrraedd cynulleidfaoedd a goroesi’r pandemig. Wrth i safleoedd ar draws y DU ddechrau ailagor, rydym yn edrych yn ôl ar rai o’r pethau cyffrous rydym wedi eu cyflawni gyda’n gilydd yn 2020/21.
  • Uchafbwyntiau 2019/20
    Bu’n ddiwedd heriol i’r flwyddyn ond mae cymaint o waith gwych wedi’i gyflawni, diolch i’ch gwaith caled a’ch cefnogaeth chi. Rydyn ni eisiau treulio munud i edrych yn ôl ar rhai o’r pethau cyffrous a ddigwyddodd yn 2019/20.

Cwestiynnau a ofynnir yn aml am Ganolfan Ffilm Cymru a’r BFI FAN.

Y Grŵp Cynghori Canolfan Ffilm Cymru sy’n arwain ac arolygu strategaeth y Ganolfan.

Mae nifer o gyrff sgrîn eraill ar gael yng Nghymru a gallent eich cefnogi.

Geirda

Running a cinema can, ironically, be quite an insular experience and the existence of the Hub is essential in providing help, vision and support and this resource should never be under appreciated - we do really rely on this agency existing and flourishing.

Exhibitor

Outstanding supportive organisation- great network to be part of.

Exhibitor

I would never have screened a Welsh language film without the Hub’s support because [this] isn’t a Welsh language speaking area. We undertook surveys to see what percentage of the audience were Welsh speaking and that’s something we never would have done […] It was the support from the Film Hub that got that going effectively.

Exhibitor

If there was a film with a Welsh focus I would absolutely jump at working with Film Hub Wales again […] They were very open, they were very communicative (…) and it makes it much easier to have a conversation when people do that, to see what the vision is and how you can pair up.

Distributor

If you want to get into the industry and have no idea how, this is honestly the best way. It was the best decision I’ve ever made!

Lacey Small - Wicked Young Programmer

Screening Scratch and Sniff Matilda was a joy. Our audience loved it and the whole process was made easy and fun for us, the organisers too. The information package was very detailed and easy to follow and we got the impression that the Film Hub Wales team had a great time creating it and all the beautiful accompanying artwork.

BFI FAN Member

It has been incredibly important to have this continuation of access to new films through online screening days, Film Hub screening rooms and screening links provided direct from the distributors. Without these it is hard to see how we can do our jobs. Nothing gets you more motivated to book, sell and promote a film screening in your venue than connecting with the film - and if you can't see the film - then that connection can't happen.

Emyr Glyn Williams - Pontio (Bangor)

Efallai yr hoffech chi hefyd...

^
CY