Gwnaethpwyd yng Nghymru

Uchafbwyntiau Gwnaethpwyd yng Nghymru 2025-26
Gwneuthurwyr Ffilmiau a Dosbarthwyr
Porwch ein Catalog o Ffilmiau

Mae Gwnaethpwyd yng Nghymru (GYNg) yn brosiect Canolfan Ffilm Cymru wedi’i gynllunio i ddathlu ffilmiau sydd â chysylltiadau Cymreig.

Rydyn ni'n gwybod na fydd ffilm yn cael ei gweld dim ond oherwydd ei bod yn ddigon da, mae angen marchnata, dosbarthu a chefnogaeth arddangos arni i gyrraedd cynulleidfa. Mae Gwnaethpwyd yng Nghymru yn gweithio drwy ychwanegu gwerth at ymgyrch rhyddhau ffilm, gan dynnu sylw at ei 'Chymreictod' trwy newyddion, adolygiadau, cyfweliadau a drwy feithrin perthynas rhwng y ffilmiau a'r sinemâu sy'n eu dangos.

Pan mae ffilm Gymreig yn cael e gweld, mae Cymru’n cael ei gweld.

Can Made In Wales Help You

Darganfyddwch fwy am ein gwaith yn ein huchafbwyntiau, a darganfyddwch sut y gallwn gefnogi ffilmiau Cymreig yn ein taflen ffeithiau

Darganfyddwch ‘Y Stori Gyfan’, newyddion, adolygiadau a chyfweliadau am ffilmiau gyda chysylltiadau Cymreig.
Wedi'i ddatblygu i gefnogi marchnata ffilmiau Cymreig, gan ystyried arddangoswyr ffilm:

Gwybodaeth Gwnaethpwyd yng Nghymru sy'n berthnasol i sinemâu, gwyliau a sgriniau cymunedol megis diwrnodau rhagolwg, cyllid ar gyfer dangosiadau ffilm yng Nghymru ac ein catalog o ffilmiau gyda gwybodaeth am hawliau:

Gwybodaeth Gwnaethpwyd yng Nghymru sy'n berthnasol i gwneuthurwyr ffilm a dosbarthwyr, megis sut i anfon gwybodaeth am eich ffilm aton ni, sut y gallwn helpu gyda rhyddhad ffilm a sut mae sefydliadau sgrin eraill yng Nghymru yn berthnasol:

Dewch o hyd i daflen gyrfaoedd arddangos, yn ogystal â gwybodaeth ynglŷn â sut gall sefydliadau ymuno mewn cyfarfodydd Gwnaethpwyd yng Nghymru, a'r hyn y mae sefydliadau sgrin yng Nghymru yn ei wneud.

Darllenwch adroddiadau swyddfa docynnau blynyddol ar gyfer ffilmiau Cymreig yn ogystal ag ymchwil ehangach yr ydym wedi’i gynnal yn seiliedig ar gysyniad Gwnaethpwyd yng Nghymru:

^
CY