Cipolwg:
- Cyfanswm sydd ar gael: Oddeutu £105,000
- Cyllid: hyd at £10k
- Cronfa’n agor: 23 Chwefror 2026
- Cronfa’n cau: 9am dydd Mercher 8 Ebrill 2026 (rownd gyntaf - AR GAU) a 9am dydd Mercher 8 Gorffennaf 2026 (ail rownd)
- Ffenestr gweithgarwch: Mai 2026 – Mawrth 2027. Rhaid i bob gweithgaredd fod wedi ei gwblhau erbyn 31 Mawrth 2027.
- Nod: Datblygu cynulleidfaoedd ar gyfer ffilmiau annibynnol y DU (gan gynnwys ffilmiau o Gymru) a ffilmiau rhyngwladol, treftadaeth sgrin a delweddau byw
Nodwch: Dylai’ch gweithgaredd gychwyn o fis Mai ymlaen, er mwyn caniatáu penderfyniadau cyllido.
Blaenoriaethau:Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn cynigion ar gyfer prosiectau sy’n cynrychioli ac yn cysylltu â chymunedau ledled Cymru. Yn benodol – cynulleidfaoedd anabl, cynulleidfaoedd ifanc, cynulleidfaoedd Du a Mwyafrif Byd-eang, cynulleidfaoedd dosbarth gweithiol a phrosiectau sy’n chwalu rhwystrau economaidd. Cysylltwch â ni os oes angen cyngor ychwanegol arnoch. Mae gennym ddiddordeb hefyd mewn cynigion sy’n dod â rhaglenni rheolaidd o’r ffilmiau annibynnol a rhyngwladol newydd gorau yn y DU i gynulleidfaoedd.
Darllenwch y canllawiau yn llawn a dilynwch y camau a nodir, er mwyn gwneud cais.