Mae’r Gronfa yn cefnogi arddangoswyr ffilmiau annibynnol i ddatblygu cynulleidfaoedd ar gyfer ffilmiau annibynnol y DU, ffilmiau rhyngwladol a delweddau byw.
Ymgeisiwch am gyllid i ddangos ffilmiau annibynnol o’r DU, ffilmiau rhyngwladol a delweddau byw i gynulleidfaoedd ledled Cymru, neu am fwrsari ar gyfer cyfleoedd hyfforddi, digwyddiadau, neu wasanaeth ymgynghori a fydd yn ehangu eich sgiliau fel arddangoswr ffilmiau.
I gael cyllid gan Ganolfan Ffilm Cymru rhaid i chi ddod yn aelod. Gallwch ymuno am ddim – i ymaelodi, cwblhewch ein Ffurflen Ymaelodi.
© Delwedd: Hijinx Unity Festival