Mae mis Ebrill 2026 yn nodi 130 mlynedd ers y dangosiadau sinema cyntaf y gwyddys amdanynt yng Nghymru. Mae'r sgrin fawr wedi bod yn gartref i ffilmiau arloesol William Haggar ac Arthur Cheetham o'r 1900au cynnar, hyd at y ffilmiau diweddaraf fel Effi o Blaenau a Madfabulous.
I ddathlu, rydym yn cynnal nifer o weithgareddau drwy gydol 2026 yng Nghanolfan Ffilm Cymru, gan gynnwys cyfres o flogiau ‘trysorau sinema’ sy’n edrych ar ein lleoliadau hanesyddol ac wedi’u hadnewyddu, ynghyd â phodlediad a chlipiau arbennig gan aelodau’r Ganolfan ar ‘ddyfodol ffilmiau Cymru’.
Rydym hefyd wedi llunio rhestr o rai o ffilmiau allweddol Cymru o'r 13 degawd diwethaf, sydd ar gael i'w gweld mewn sinemâu nawr.