Vacancy montage
Swyddi: Swyddog Gwnaethpwyd yng Nghymru (ar gau)
  • Swyddog Gwnaethpwyd yng Nghymru (Llawrydd)
  • Graddfa: £200 y diwrnod
  • Contract: 67 diwrnod (tua 2.5 diwrnod yr wythnos - Hydref 2023 i Mawrth 31, 2024.
  • Lleoliad: Mae gofod swyddfa ar gael yn Chapter yng Nghaerdydd. Gellir cyflawni’r rôl o bell.

Diben y Swydd
Fe fydd deiliad y swydd yn gweithio gyda'r sector sgrin yng Nghymru i ddatblygu cynulleidfaoedd ar gyfer ffilmiau sydd â chysylltiadau Cymreig, gan ganolbwyntio ar arddangos theatrig ac antheatrig. Byddant yn cynnig cyngor wedi'i deilwra i ddeiliaid hawliau ynghylch rhyddhau ffilm yng Nghymru, monitro data perfformiad ffilm, datblygu dulliau marchnata ac asedau sy'n ychwanegu gwerth at ryddhau'r ffilm. Cefnogir y rôl hon gan gyllid gan Cymru Greadigol.

  • Mae ffurflenni cais a disgrifiad swydd ar gael i’w lawrlwytho isod. Ni allwn dderbyn CVs.
  • Ni fyddwn yn gallu cyfarfod gydag ymgeiswyr unigol cyn y cyfweliad.
  • Os oes gennych unrhyw ymholiadau am y broses o wneud cais cysylltwch os gwelwch yn dda gyda apply@chapter.org
  • Dyddiad Cau ar gyfer ceisiadau: 9am, Dydd Llun 31 Gorffennaf 2023.
  • Cynhelir cyfweliadau: Dydd Iau 10 Awst 2023.
Darllen rhagor
Film Hub Wales - Vacancies
Swydd Wag: Swyddog Marchnata ac Allgymorth (Ar Gau)
  • Swyddog Marchnata ac Allgymorth, Canolfan Ffilm Cymru (CFfC)
  • Cyflog: £26,353
  • Cytundeb: Mehefin 2023 – Mawrth 31ain 2026, yn ddarostyngedig i gadarnhad o gyllideb flynyddol
  • Oriau: 40 awr yr wythnos (TOIL). Mae peth gwaith gyda’r nos ac ar benwythnosau yn angenrheidiol i’r swydd
  • Lleoliad: Yn swyddfa Chapter, Caerdydd. Rydyn ni’n cynnig model hybrid o weithio, sy’n golygu y gallwch hefyd weithio o adref pan yn bosib

Diben y Swydd
Cefnogi’r Ganolfan a’i haelodau i ddatblygu cynulleidfaoedd ar gyfer sinema annibynnol Brydeinig a rhyngwladol, a hynny ledled Cymru, drwy waith marchnata ac allgymorth. Mae hyn yn cynnwys prosiect ‘sbotolau’ arbennig mewn ardal benodol yng Ngogledd Cymru.

  • Mae ffurflenni cais a disgrifiad swydd ar gael i’w lawrlwytho isod. Ni allwn dderbyn CVs.
  • Ni fyddwn yn gallu cyfarfod gydag ymgeiswyr unigol cyn y cyfweliad.
  • Os oes gennych unrhyw ymholiadau am y broses o wneud cais cysylltwch os gwelwch yn dda gyda apply@chapter.org
  • Dyddiad Cau ar gyfer ceisiadau: Dydd Mercher 7 Mehefin, 10am
  • Cynhelir cyfweliadau: Dydd Mercher 14eg Mehefin.

 

Darllen rhagor
^
CY