For over a year The National Library of Wales (NLW) has been developing a scheme to offer bilingual resources from the Library’s graphic and audiovisual collections for reminiscence.
As part of the scheme, they are offering independent cinemas and film societies a programme of archival films that will appeal to older people, those living with dementia and their families; they will also offer a wider audience a medium to generate discussions about their community, e.g. how culture and traditions change over the years.
Ers dros flwyddyn mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru (LlGC) wedi bod yn datblygu cynllun i gynnig adnoddau dwyieithog o gasgliadau gweledol a graffigol LlGC ar gyfer hel atgofion ac i hwyluso therapi’r cof.
Fel rhan o’r cynllun rydym yn cynnig rhaglen o ffilmiau archifol (sy’n addas ar gyfer pobl hŷn, rhai sy’n byw gyda dementia a’u teuluoedd) i sinemau annibynnol a chlybiau ffilm; bydd y ffilmiau hefyd yn cynnig cyfrwng i gynulleidfa ehangach i gychwyn sgyrsiau am y gymuned, e.e. sut mae diwylliant a thraddodiadau wedi newid dros y blynyddoedd.