Sinemau Cymunedol Gwledig

© Jon Pountney / Llancarfan Community Cinema

Bob blwyddyn mae Canolfan Ffilm Cymru yn uno gyda Flicks in the Sticks a Moviola i ddod â sinemau cymunedol gwledig Cymru at ei gilydd am ddigwyddiad hyfforddiant undydd a rhwydweithio yn ystod Gŵyl Ffilm Borderlines.

Cynhaliwyd y digwyddiad cyntaf ar Mawrth 13 2016 yn Neuadd y Plwyf, Gelli Gandryll, ynghyd â Sinema i Bawb.

Roedd y sesiynau’n cynnwys:

  • Cael y gorau allan o’ch offer sain ac acwstig (her gyffredin i arddangoswyr cymunedol a chymdeithasau ffilm) a chynghorion ar daflunio.
  • Beth sydd yn cyfrif fwyaf i arddangoswyr ffilm gwledig yng Nghymru? Rhwydweithio a thrafod. Pa gefnogaeth sydd ar gael?

Cynhaliwyd yr ail ddigwyddiad ar 26 Chwefror 2017 yn Bookshop Sinema Richard Booth yn Gelli Gandryll.

Roedd y sesiynau’n cynnwys:

  • Marchnata arloesol gyda Rachael Castell
  • Cyfryngau Cymdeithasol yn y Gymru Wledig gydag Off y Grid
  • Ymgysylltu gyda’r sector gwirfoddol a chynulleidfaoedd ifanc gyda WCVA
  • Sinema Cymunedol a Chymdeithas Ffilm – dal i fyny

Dysgwch ragor yma.


Cynhaliwyd y trydydd digwyddiad ar 3 Mawrth 2018 yn Bookshop Sinema Richard Booth yn Gelli Gandryll.

Roedd y sesiynau’n cynnwys:

  • Panel rhaglenwyr ifanc a gweithwyr proffesiynol yn y sinema
  • Gweithdy rhyngweithiol cynulleidfa ifanc gan Media Active.
  • Sinema Cymunedol a Chymdeithas Ffim – dal i fyny dan gadeiryddiaeth Moviola

Dysgwch ragor yma.


Cynhaliwyd y pedwerydd digwyddiad yn Sinema Cymunedol Knighton.
Roedd y sesiynau’n cynnwys:

Os oes pynciau yr hoffech eu harchwilio mewn sesiynau yn y dyfodol, cysylltwch gyda ni os gwelwch yn dda yma.
We hope to organise another event soon, keep an eye out in our newsletters and social media channels.
^
CY
Film Hub Wales | Canolfan Ffilm Cymru
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.