Gwneud cais am Fwrseriaeth Hyfforddi

Bwrseriaethau Hyfforddi a Sgiliau

Darganfyddwch sut i wneud cais.

Ymgeisiwch am fwrsari ar gyfer cyfleoedd hyfforddi, digwyddiadau ac ymgynghoriaeth. Byddwch yn ehangu ar eich sgiliau fel arddangoswr ffilmiau ac yn buddio’ch sefydliad. Darllenwch ein Bwrsariaeth Hyfforddiant a Sgiliau cyn wneud cais.

© Delwedd: Gentle/Radical

Dewiswch dab i weld...

Mae’r gronfa fwrsari hon yn galluogi staff a gwirfoddolwyr sefydliadau sy’n aelodau o Ganolfan Ffilm Cymru i ddatblygu eu sgiliau, gan fuddio’u sefydliad a’r rhwydwaith CFfC ehangach.

O fynychu cyfarfodydd strategol y tu allan i’ch awdurdod lleol i gyrsiau mwy dwys am farchnata neu godi arian – y nod cyffredinol yw datblygu cynulleidfaoedd ar gyfer ffilmiau annibynnol o’r DU a ffilmiau rhyngwladol a delweddau byw yn fwy cyffredinol o Gymru.

Gallwch weld a lawr lwytho’r canllawiau yma.

Lawrlwythiadau PDF neu Word (wedi'i hoptimeiddio ar gyfer hygyrchedd)

 
  • Gellir gwneud cyflwyniadau ar sail treigl (heb ddyddiad cau penodol) ond dydyn ni ddim yn derbyn ôl-gyflwyniadau.
  • Darllenwch ein Bwrsariaeth Hyfforddiant a Sgiliau.
  • Lawrlwythwch y Ffurflen Gais Word (wedi'i hoptimeiddio ar gyfer hygyrchedd)

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â: lisa@filmhubwales.org

Mae Canolfan Ffilm Cymru yn cynnig cyfleoedd drwy gydol y flwyddyn ar gyfer gweithgaredd arddangos annibynnol yng Nghymru. Gall aelodau wneud cais i’r canlynol:

Rydym hefyd yn cynnig digwyddiadau rhwydweithio, cyrsiau hyfforddi, cymorth marchnata, a newyddion ffilm.

^
CY
Film Hub Wales | Canolfan Ffilm Cymru
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.