Cipolwg:
- Cyfanswm sydd ar gael: Oddeutu £95,000
- Cyllid: hyd at £10k
- Cronfa’n agor: 21 Chwefror 2025
- Cronfa’n cau: 9am ddydd Gwener 11 Ebrill 2025 (rownd gyntaf - AR GAU) a dydd Gwener 11 Gorffennaf 2025 (ail rownd - AR GAU)
- Ffenestr gweithgarwch: Mai 2025 - canol mis Mawrth 2026. Rhaid i bob gweithgaredd fod wedi ei gwblhau erbyn 15 Mawrth 2026.
- Nod: Datblygu cynulleidfaoedd ar gyfer ffilmiau annibynnol y DU (gan gynnwys ffilmiau o Gymru) a ffilmiau rhyngwladol, treftadaeth sgrin a delweddau byw
Nodwch: Dylai’ch gweithgaredd gychwyn o fis Mai ymlaen, er mwyn caniatáu penderfyniadau cyllido.
Blaenoriaethau:Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn cynigion ar gyfer prosiectau sy’n cynrychioli ac yn cysylltu â chymunedau ledled Cymru. Yn benodol – cynulleidfaoedd anabl, cynulleidfaoedd ifanc, cynulleidfaoedd Du a Mwyafrif Byd-eang, cynulleidfaoedd dosbarth gweithiol a phrosiectau sy’n chwalu rhwystrau economaidd. Cysylltwch â ni os oes angen cyngor ychwanegol arnoch. Mae gennym ddiddordeb hefyd mewn cynigion sy’n dod â rhaglenni rheolaidd o’r ffilmiau annibynnol a rhyngwladol newydd gorau yn y DU i gynulleidfaoedd.
Darllenwch y canllawiau yn llawn a dilynwch y camau a nodir, er mwyn gwneud cais.