Aelodau

Penarth Pier Pavilion, Magic Lantern Tywyn, The Riverfront, Pontio, Chapter, Gwyn Hall

Aelodaeth Canolfan Ffilm Cymru

Os ydy eich corff yn dangos ffilmiau i gynulleidfaodd cyhoeddus, neu yn bwriadu cychwyn ac os ydych eisiau ehangu amrediad y ffilmiau sydd ar gael, yna gallai ein haelodaeth Canolfan (am ddim) eich helpu. Mae’r manteision yn amrywio o gyfleoedd cyllido i rwydweithio, newyddion y diwydiant a chynigion a chyngor cefnogaeth ac eiriolaeth gan ein tîm. Rydym yn croesawu aelodau drwy gydol y flwyddyn. Mae ein canllawiau a’n ffurflen aelodaeth ar gael isod.

Mae ein haelodau wrth galon Canolfan Ffilm Cymru. Rydym wedi mapio dros 300 o leoliadau ar draws Cymru o ganolfannau celfyddyd cymysg i ddarpawyr pop-yp. Edrychwch ar ein map aelodau isod (neu edrychwch ar y rhestr) i ddarganfod eich sinema neu wŷl agosaf.

*Dim ond gwybodaeth sylfaenol fydd yn ymddangos ar gyfer cyrff sydd heb gofrestru eto fel aelodau’r Ganolfan. Os nad ydy’ch corff yn ymddangos ac os hoffech inni eich cynnwys, cysylltwch â ni.

Ein Haelodau
Ymaelodwch:

Mae aelodaeth Canolfan Ffilm Cymru yn rhad ac AM DDIM i gyrff cymwys ac yn cynnig ystod eang o fanteision. Ymunwch â’r Ganolfan.

Edrychwch ar restr A-Z o Aelodau yma:

^
CY