Dod â sinema Affricanaidd i Gymru

Bydd gŵyl ffilmiau Affricanaidd flynyddol Cymru, Watch-Africa Cymru, yn digwydd ar-lein yn 2021, gan ddod ag Affrica a Chymru at ei gilydd i ddathlu sinema Affricanaidd.

Sefydlwyd yr ŵyl Watch-Africa Cymru wyth mlynedd yn ôl yn ne Cymru, a hon yw unig ŵyl ffilmiau Affricanaidd Cymru. Mae'r 9fed rhifyn eleni yn symud ar-lein ac yn digwydd rhwng 19 a 28 Chwefror 2021.

Gyda chefnogaeth Canolfan Celfyddydau Chapter, Ffilm Cymru a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, mae rhaglen gyffrous o'r enw 'Dod ag Affrica i Gymru', wedi cael ei churadu. Bydd yr ŵyl yn sgrinio amrywiaeth o 10 o ffilmiau gwych, a sesiwn holi ac ateb fyw gyda chyfarwyddwyr, cast ac arbenigwyr.

Ynghyd â'r rhaglen sinema hon, bydd yr ŵyl yn cynnig cyfres o weithdai diddorol hefyd, sydd wedi'u trefnu'n arbennig i gefnogi’r rhaglen sinema (gan gynnwys gweithdy ar Lên Gwerin Affricanaidd!).

Bydd yr ŵyl hon yn dathlu cyfnewidfeydd diwylliannol dilys drwy gydweithrediadau sinematig traws-genedlaethol. I agor yr ŵyl, mae’n bleser gan Watch-Cymru Africa groesawu Florence Ayisi, gwneuthurwr ffilmiau Cymru-Affrica. Bydd yr ŵyl yn dod i ben gyda sgriniad 'Buganda Royal Music Revival' a thrafodaeth gyda gwneuthurwyr ffilmiau a chynrychiolwyr Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.

Dilynwch Watch-Africa Cymru ar Facebook, Twitter ac Instagram i ymuno â’r drafodaeth arlein ac i gael cyfle i ennill rhywfaint o wobrau arbennig.

Meddai Christine Patterson, cynhyrchydd Watch-Africa Cymru:

Rwy'n falch iawn o fod yn rhan o gydweithrediadau mor wych ar gyfer yr ŵyl ffilmiau eleni. Mae'r rhaglen hon yn siŵr o ysgogi ystod eang o emosiynau, a sbarduno rhywfaint o drafodaethau diddorol. Rydym ni, yn ogystal â'n cydweithwyr, yn edrych ymlaen at fwynhau'r ŵyl sydd i ddod gyda chi.

Meddai Claire Vaughan o Ganolfan Celfyddydau Chapter:

Rydym wedi bod yn gweithio gyda Watch-Africa ers blynyddoedd lawer, ac rwy'n falch iawnein bod ni wedi helpu i wneud yr ŵyl hon yn ŵyl ddigidol eleni, fel bod cynulleid faoedd yn cael cyfle i weld yr holl ffilmiau gwych hyn.

"Mae gwledd o’ch blaen- rhaglenni dogfen gan wneuthurwyr ffilmiau yng Nghymru, sylwebaeth gymdeithasol, comedi, clasuron a rhywfaint o'r ffotograffiaeth harddaf y byddwch yn ei weld eleni.

"Rwy'n edrych ymlaen yn arbennig at y gweithdai, sy'n cynnwys addysgwyr fel Abu-Bakr Madden Al-Shabazz. Peidiwch â cholli eich cyfle i weld y ffilmiau hyn, a gweld ychydig o'r byd sydd ddim ar gael i ni ar hyn o bryd."

Dywedodd yr Athro Florence Ayisi, gwneuthurwr ffilmiau Affricanaidd sy'n byw yng Nghymru ac sydd â dwy ffilm sydd yn mynd i gael eu sgrinio, bod:

"Watch-Africa Cymru yn cynnig gofod creadigol i wneuthurwyr ffilmiau a phobl sy’n caru ffilmiau i gysylltu a thrafod. Mae'n ofod arbennig sy'n ymwneud mwy â syniadau, delweddau a straeon am ddiwylliant a phrofiadau Affricanaidd a gipiwyd mewn ffilm. Yn bwysicach na hynny, mae'n le i weld, clywed a gwybod ychydig mwy am safbwyntiau a phrofiadau byw sy'n pontio bylchau o wybodaeth anghywir a chamddehongliadau am fywyd yn Affrica."

Mae Watch-Africa Cymru yn fwy na gŵyl ffilmiau; mae wedi creu lle i gynulleidfaoedd ddathlu diwylliannau pobl Affricanaidd sy'n ffurfio Cymru amlddiwylliannol; gweledigaeth wych!

Mae tocynnau ar gyfer yr Ŵyl Ffilmiau Dod ag Affrica i Gymru ar werth nawr. Bydd modd prynu pob ffilm a’u ffrydio ar Chwaraewr Chapter.

Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth am yr ŵyl.
Cliciwch yma i weld clip o ŵyl Watch Africa 2021.

Mae’r ŵyl yn cael ei chefnogi gan: Ffilm Cymru, Panel Cynghori Is-Sahara (SSAP), Hub Cymru Affrica (HCA), Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru (RWCMD)

ENDS.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch drwy’r ffyrdd canlynol:

  • Christine Patterson, Cynhyrchydd Watch-Africa, programmes@watch-africa.co.uk/ +447907 348384
  • Fadhili Maghiya, Cyfarwyddwr Watch-Africa yn +4478283 29923
  • Watch-Africa Cymru gwefan

I weld y newyddion diweddaraf ar y cyfryngau cymdeithasol:

I gael rhagor o wybodaeth am Hub Cymru Affrica, ewch i:

^
CY
Film Hub Wales | Canolfan Ffilm Cymru
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.