Cyn ymuno â’r Ganolfan, roedd Lisa yn Gyfarwyddwr BAFTA Cymru. Mae ganddi dros 20 mlynedd o brofiad o weithio yn y sectorau creadigol yng Nghymru. Mae ganddi radd mewn Animeiddio a threuliodd dwy flynedd yn gweithio ar brosiectau creadigol amrywiol yn Awstralia, gan gynnwys cynyrchiadau Disney ar gyfer Liquid Animation ac Art from the Margins, i gefnogi a hybu gwaith artistiaid sy’n wynebu adfyd, anfantais neu ynysigrwydd cymdeithasol.
Mae Lisa’n gyfrifol am ddatblygiad y Ganolfan a chydlynu prosiectau, gan gynnwys adeiladu a chynnal cysylltiadau gydag aelodau a phartneriaid y Ganolfan.
Mae Lisa’n defnyddio’r rhagenwau hi/ei.