Yn wreiddiol o Ogledd Cymru, mae Jade wedi treulio 8 mlynedd yn gweithio ym maes marchnata yn y diwydiannau cyfryngau a ffasiwn yn Llundain lle treuliodd dros 6 blynedd yn Radiocentre, y corff diwydiant ar gyfer radio masnachol, yn gweithio ar ran dros 50 o randdeiliaid i hyrwyddo ac annog hysbysebion radio trwy gyfuniad o weithgarwch marchnata, ymchwil, a hyfforddiant.
Bydd Jade yn cefnogi’r Hyb a’i aelodau i ddatblygu cynulleidfaoedd ar gyfer sinema annibynnol Prydain a’r byd ledled Cymru drwy weithgareddau marchnata ac allgymorth.
Mae Jade’n defnyddio’r rhagenwau hi/ei.