Archif Sgrin a Sain Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn lansio Ap newydd sy’n dathlu Hanes gwneud ffilmiau yng Nghymru

Mae Picturing our Past / Fframio’n Gorffennol yn ap hynod sy’n cael ei lansio ar-lein ar 4 Mai 2021 mewn digwyddiad arbennig gyda’r cerddor Gwenno sy’n canu yn Gymraeg a Chernyweg, y gwneuthurwr ffilmiau ffeministaidd Michele Ryan ac un o gyflwynwyr S4C, a chyn-rocar, Aled Samuel. Bydd rhaghysbyseb (trailer) arbennig gyda throslais gan Cerys Matthews yn cael ei chwarae yn ystod y digwyddiad.

Mae’r ap yn crynhoi sawl carreg filltir o fewn hanes gwneud ffilmiau yng Nghymru – a ddisgrifiwyd unwaith gan yr hanesydd uchel ei barch, Dave Berry, fel “Yr etifeddiaeth ffrwythlon honno”. Mae Archif Sgrin a Sain Cymru Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith o warchod ffilmiau a recordiadau sain o Gymru ac mae nawr yn cefnogi cynnyrch dwyieithog sy’n torri’n rhydd o ffiniau llyfr, gan greu cyfuniad unigryw o eiriau a delwedd symudol.

Mae’r cyfarwyddwr arobryn Colin Thomas a’r archifydd ffilm Iola Baines wedi dewis pump ar hugain o glipiau ffilm o orffennol ffilmig Cymru wedi’u cysylltu â thestun i adrodd stori sy’n mynnu ein sylw. Cafodd yr e-lyfr hwn ei lunio gan Thud Media yng Nghaerdydd gyda chefnogaeth Cyngor Llyfrau Cymru a Hwb Ffilm Cymru.

Dywedodd Pedr ap Llwyd, Prif Weithredwr a Llyfrgellydd y Llyfrgell Genedlaethol:

"Mae'r e-lyfr newydd yma yn ffordd gyffrous a blaengar o gyflwyno casgliadau clyweledol cyfoethog y Llyfrgell Genedlaethol, gan gynnig llwybr ffres a chyfoes i ddefnyddwyr o bob math fedru cyrraedd at y dreftadaeth apelgar hon. Edrychaf ymlaen yn fawr at ein lansiad arlein ar 4ydd o Fai, pryd bydd ein panel byrlymus yn siwr o godi awch am lawrlwytho'r 'ap' a'i gipolwg ffresh ar y sinema Gymreig."

Meddai Iola Baines, Curadur Delweddau Symudol, Archif Sgrin a Sain Llyfrgell Genedlaethol Cymru:

“Bydd Fframio’n Gorffennol yn dangos bod ffilmiau a saethwyd yng Nghymru nid yn unig yn adlewyrchu hanes Cymru – gyda glowyr di-waith sy’n crafu ar domen lo yn Today We Live yn dod yn symbol o’r Dirwasgiad – ond eu bod hefyd yn effeithio ar hanes Cymru – er enghraifft fe wnaeth ffilm The Citadel gyfrannu at hyrwyddo’r momentwm tuag at greu Gwasanaeth Iechyd Gwladol.”

Ychwanegodd Colin Thomas:

“Tra’n anrhydeddu enghreifftiau nodedig o lwyddiannau byd y ffilm yng Nghymru, megis Hedd Wyn, bydd yr ap yn ceisio sicrhau nad yw campweithiau na chafodd gymaint o gydnabyddiaeth yn cael eu hanwybyddu – ffilmiau fel David ac Un Nos Ola Leuad. Ac er y bydd yr ap yn cydnabod poblogrwydd gwladgarol ffilmiau megis Zulu, bydd hefyd yn trafod ffilmiau sy’n portreadu Cymru o bersbectif mwy dadleuol – megis Twin Town a Human Traffic.”

Meddai Hana Lewis, Rheolwr Strategol Canolfan Ffilm Cymru:

“Gall gweld ein straeon ar y sgrin gael effaith enfawr ar sut rydym yn gweld ein hunain ac mae archifau sgrin yn chwarae rhan hanfodol yn hyn. Bydd Fframio’n Gorffennol yn cyfuno hanes â thechnoleg ddigidol, gan roi ffyrdd newydd cyffrous i gynulleidfaoedd ddarganfod ffilmiau o Gymru. Rydym yn falch iawn o gefnogi’r prosiect drwy ein hedefyn Made in Wales, sy’n hyrwyddo ffilmiau gyda chysylltiadau Cymreig drwy gydol y flwyddyn.”

A oes gan Gymru etifeddiaeth ffilm nodedig? Yn dilyn cyflwyniad ffilm byr, dyma’r cwestiwn a drafodir yn lansiad yr ap gan y gwneuthurwr ffilmiau ffeministaidd Michele Ryan, y darlledwr a’r cyn-ganwr pync roc Aled Samuel a’r cerddor a’r artist sain Gwenno

–ENDS–

Am ragor o wybodaeth cysylltwch gyda:

Ynglŷn â’r Archif Sgrin a Sain Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Mae’r Archif Sgrin a Sain yn cadw, yn hyrwyddo ac yn dathlu treftadaeth sain a delweddau symudol Cymru. Mae’r Archif yn gartref i gasgliad cynhwysfawr, heb ei ail, o ffilmiau, rhaglenni teledu, fideos, recordiadau sain a cherddoriaeth sy’n ymwneud â Chymru a phobl Cymru. Mae’r casgliad yn amlweddog, ac mae’n cwmpasu pob agwedd ar ddiwylliant a bywyd Cymru a’i phobl fel y’u croniclir gan gyfryngau clyweledol ar ffurf sain, fideo, ffilm a’r fformatau digidol diweddaraf.

Am Canolfan Ffilm Cymru:
Nod Canolfan Ffilm Cymru ydy cyflwyno rhagor o ffilmiau i ragor o bobl mewn rhagor o leoedd o amgylch Cymru. Yn rhan o Rwydwaith Cynulleidfa Ffilm BFI, a gyda chefnogaeth cyllid y Loteri Cenedlaethol, mae Canolfan Ffilm Cymru yn rheolaidd yn datblygu ffyrdd dyfeisgar i bobl yng Nghymru fynd i’r sinema gyda’i leoliadau aelod annibynnol.

Mae Canolfan Ffilm Cymru (FHW) yn un o wyth canolfan ledled y DU sy’n rhan o Rwydwaith Cynulleidfa Ffilm (FAN) BFI a gefnogir gydag arian y Loteri Genedlaethol, gyda’r Chapter wedi’i phenodi’n Sefydliad Arweiniol y Ganolfan Ffilm (FHLO) yng Nghymru. Ein nod yw datblygu’r sector arddangosfeydd gyda chymorth ymchwil, hyfforddiant a gwaith datblygu cynulleidfaoedd pwrpasol. Ers sefydlu Canolfan Ffilm Cymru yn 2013, rydym wedi cefnogi dros 225 o brosiectau sinema cyffrous, gan gyrraedd dros 422,000 o aelodau o’r gynulleidfa.

^
CY