Cymru’n Serennu: Llywio Cenedl ar y Sgrin Fawr 

© Portrait of Kaye (Ben Reed), © Being Hijra (Ila Mehrotra) © The Almond and the Seahorse (Bankside Films))

Cymru’n Serennu: Llywio Cenedl ar y Sgrin Fawr 

Ysgrifenwyd gan Nia Edwards-Behi a Canolfan Ffilm Cymru

Darllenwch y ysgrif llawn yma

Rydyn ni hefyd wedi comisiynu cyd-sylfaenydd a rhaglennydd Gŵyl Ffilmiau Abertoir Nia Edwards-Behi, i siarad am amrywiaeth y ffilmiau hyn, beth maent yn ei ddweud am dirwedd ddiwylliannol gyfnewidiol Cymru a pham y mae’n bwysig bod pob ffilm Gymreig yn cael ei dangos mewn sinemâu.

I mi, nid oes unman gwell i wylio ffilm nag mewn sinema – gyda chyd-aelodau’r gynulleidfa o’m hamgylch mewn ystafell wedi’i thywyllu, gyda sgrin llachar a sain bob man o’ch cwmpas. 

Mae pwysigrwydd y sinema a’r awditoriwm theatraidd, fodd bynnag, yn mynd ymhell y tu hwnt i ddewis personol. Ni ddylid tanbrisio ei effaith ehangach ar feithrin diwylliant, yn enwedig ar gyfer cenhedloedd bach sy’n gwneud ffilmiau, fel Cymru. Os yw ffilm o Gymru’n colli’r cyfnod theatraidd ac yn mynd yn syth i ffrydio, a oes effaith ddirnadwy ar y ffilm a’i chynulleidfa fwriadedig?

Cymerwch ffilm Sally El Hosaini The Swimmers er enghraifft.. Ar ôl rhyddhau’r ffilm am gyfnod cyfyngedig yn y theatrau, aeth i Netflix ar ddiwedd 2022. Yn ddiau, hon oedd y ffilm gyntaf gan storïwraig o Gymru am ddwy chwaer a oedd yn ffoaduriaid o Syria. Fe wnaeth elwa ar ymgyrch farchnata sylweddol a thrafod beirniadol eang - trafodaeth nad oedd, yn arswydus, i’w chael yng Nghymru. Ni allaf helpu ond meddwl tybed pam? O’m profiad i o gyd-gyfarwyddo Gŵyl Arswyd Ryngwladol Cymru Abertoir,rwy’n gwybod fod pŵer ynghlwm wrth guradu. Pan fydd rhaglennwr yn dewis teitl ar gyfer cymuned leol, ymddiriedir yn yr argymhelliad hwnnw a chaiff gofod i adrodd y stori honno ei greu.  

Mae gennym dros 300 o leoliadau annibynnol yng Nghymru, gwyliau a sgriniau cymunedol sy’n bodoli i gefnogi’r math hwn o feithrin diwylliant drwy storia o’r newydd, nid ail wneuthuriad arall na ffilm ‘wedi’i hail-greu’. Nid hybiau cymunedol yn unig mohonynt, ond arweinwyr diwylliannol, yn arddangos ffilmiau Cymru ochr yn ochr â sinema tŷ-celf o bob cwr o’r byd, clasuron, y ffilmiau poblogaidd diweddaraf a ffilmiau archif. Mae’r gofodau hyn yn hynod werthfawr - yn hanesyddol yn aml, ond hefyd trwy’r gwasanaethau y maen nhw’n eu cynnig i’r gymuned, a all ymestyn ymhell y tu hwnt i gynnig y sinema, i fanciau bwyd a chynulliadau cymdeithasol i gymunedau wedi’u hymyleiddio nad oes ganddyn nhw fynediad i wasanaethau ffrydio.

Mae ffilm sy’n mynd heibio’r cyfnod theatraidd ac yn mynd yn syth i ffrydio yn aml yn colli allan ar y driniaeth farchnata a all ddod o sinema sy’n adnabod ei chymuned. Gallai dangosiad theatraidd ar gyfer ffilm fel The Swimmers fod wedi tanio sgyrsiau â naws gymunedol iddynt am gefnogi ffoaduriaid yng Nghymru. Heb sôn am agor i fyny ar farnau Manal Issa am ystrydebau dwyreiniol y ffilm ac arferion gweithio ar y set, sydd, gan mwyaf, wedi’u diystyru gan y cyfryngau ehangach.  

O ystyried y cyfnewidiadau hyn (a’r ffilm ei hun), gall cyfle i ffynnu all-lein fod yn fuddiol yn ariannol ac yn ddiwylliannol. Daw’r rhaglennwr â’r ffilm i’w gymuned gan wybod bod angen iddi ei gweld neu ei bod eisiau ei gweld, yn hytrach na dibynnu ar y gwyliwr i ddewis y ffilm oddi ar gludfelt o ffilmiau newydd ar sgrin fach, lle’r ydym yn arunig o ran ein hymgysylltiad. Pan eir â sgyrsiau all-lein, mae cymunedau yn cael y cyfle hefyd i ddylanwadu ar y ddeialog a llywio’r galw am yr hyn a welant ar y sgrin.

Un sgwrs o’r fath yw pam mai sylw cyfyngedig y cafodd cysylltiad Cymreig The Swimmers. Nid yw hyn yn benodol i’r ffilm hon, wrth gwrs. Mae ffilmiau fel Three Identical Strangers neu The Silent Twins yn wynebu rhwystrau tebyg. Lle mae rhai ffilmiau Cymreig yn cael eu caffael gan gwmnïau cynhyrchu mwy, nid ydynt yn sôn bod y storïau, neu’r ddawn y tu ôl i’r storïau, yn dod o Gymru. Os gellir dweud bod ein dealltwriaeth a’n gwerthfawrogiad diwylliannol wedi’u gwneud a’u herio gan ffilmiau o’r gwledydd prysuraf o ran gwneud ffilmiau, ’does bosib bod yr un peth yn wir o ran y rheiny y gallai eu hallbwn fod yn llai, fel Cymru.

Rydym wedi hen arfer ag ystrydebau Cymreig. Mae gennym syniad o ba fath o olwg a sain fydd ar Gymru, a gallwn weld hynny ar y sgrin fel arfer. Cymerwch y teitlau cyntaf a allai ddod i’r cof pan fyddwn yn meddwl am Gymru ar ffilm – How Green Was My Valley (John Ford, 1941) a The Englishman Who Went Up a Hill but Came Down a Mountain (Christopher Monger, 1995). Er na chafodd yr un o’r ffilmiau eu gwneud yng Nghymru, gellir gweld pwyslais yn y ddwy ar dirwedd a chymuned gaeedig. Mae Cymru wedi’i gweld – pan gaiff ei gweld – fel lle annatblygedig, lle mae cymunedau caeedig yn cydio yn yr hen ffyrdd ac yn ymwrthod â phobl o’r tu allan. Mae’n dirwedd Gymreig sy’n sefyll i mewn dros rostiroedd Swydd Efrog yn un o olygfeydd enwocaf y ffilm sy’n dangos ‘pobl leol elyniaethus yn y dafarn’, yn An American Werewolf in London (John Landis, 1981).

Mae tirwedd a hanes Cymru fel be baent yn cynnig eu hunain mor dda i’r hoff fath hwnnw o ffilm ‘Brydeinig’, sef stori’r gwannaf sy’n rhoi’r ‘teimlad da’ hwnnw, ond beth allai hynny ddweud amdanom ni fel cenedl? Trwy gydol y cyfnodau hyn, mae llawer o ffilmiau am hanes Cymru wedi chwalu drwy’r stereoteipiau hyn. Mae Hedd Wyn (Paul Turner, 1992) yn rhannu hanes ei fardd o heddychwr, Mr Jones (Agnieszka Holland, 2019) ei newyddiadurwr rhyfel, ac mae Pride (Matthew Warchus, 2014) yn portreadu gwroldeb mynych glowyr, eu teuluoedd, a Lesbiaid a Hoywon yn Cefnogi’r Glowyr (LGSM).

(Delwedd: © Y Sŵn, Joio) 

Yn fwy diweddar, cawn ffilmiau sy’n herio ein rhagdybiaethau. Mae Brian and Charles (Jim Archer, 2022) yn dangos sut mae ein tirweddau yn gartref i arloeswyr tawel a’u creadau. Mae I Am Not a Witch (Rungano Nyoni, 2017) yn dangos nad yw gwneuthurwyr ffilmiau Cymreig yn dweud storïau o un lle yn unig, a pha bwrpas sydd i ffin cenedl wrth ddiffinio celf, beth bynnag? Nid yw ffilm o angenrheidrwydd yn llai Cymreig am adrodd storïau sydd wedi’u gosod yn rhywle arall pan fydd y gwneuthurwr yn Gymreig neu’n gweithio yng Nghymru: os gallwn ddod o hyd i ystyr cyffredinol mewn ffilmiau o rywle arall, gall ffilmiau o Gymru wneud yr un peth.

Mae Gwledd (Lee Haven Jones, 2021) yn ymdrin yn benodol â naratif Cymreig mewn genre eang a phoblogaidd, gan ddangos ein tirweddau yn llygredig a’r craciau hunanwneuthuriedig yn ein cymunedau clós. Mae’n gwneud hynny i gyd mewn mynegiant hyderus iaith sydd wedi’i gwneud yn iaith leiafrifol. Mae gallu sgrinio ffilm fel Gwledd yn fawr ac yn groch, i gynulleidfaoedd yng Nghymru a ledled y byd, yn her i’r modd rydym ni’n gweld ein hunain a sut y cawn ein gweld gan rai eraill. Pan gynhaliwyd premier y ffilm yn Abertoir, yn 2021, dywedodd yr awdur Roger Williams, hyd yn oed,

“Pe baem yn mynd ati’n eithaf beiddgar i ddweud ein storïau ar y sgrin fawr hon, gallem ddechrau meithrin y math o ddiwylliant lle nad yw’n anarferol gweld ffilmiau Cymraeg mewn sinemâu.” 

Er mwyn gwneud hyn yn realiti – er mwyn sicrhau tegwch yn y maes gwneud ffilmiau yng Nghymru a llwyfan i ffilmiau nad ydynt efallai’n cael eu hystyried yn ffilmiau Cymreig yn draddodiadol, mae’n rhaid i ni hefyd gwestiynu’r gadwyn ddigwyddiadau gyfan. Sut mae’r storïau hyn yn cael eu dewis, beth sy’n llwyddo i gael eu cynhyrchu a pha storïau sydd ar goll? 

Wrth gwrs, mae budd eang i ffrydio a dangos ffilmiau gartref, gan gynnig llwyfan i wneuthurwyr ffilmiau a ymyleiddiwyd nad ydynt bob amser yn cael cyfle teg o ran dosbarthu eu ffilmiau mewn ffyrdd traddodiadol. Gwnaeth y gwneuthurwr ffilmiau o’r DU, Ava Du Vernay, sylw ar hyn yn y gorffennol:

‘‘Un o’r pethau rwy’n ei werthfawrogi ynglŷn â Netflix yw ei fod yn dosbarthu gwaith Pobl Dduon yn eang iawn. Bydd 190 o wledydd yn cael WHEN THEY SEE US. Mae un o fy ffilmiau i wedi cael ei dosbarthu’n eang yn rhyngwladol yn ddiweddar. Nid SELMA. Nid WRINKLE. Ond 13TH. Gan Netflix. Mae hynny’n bwysig." 

Mae erthyglau diweddar yn Guardian FAN BFI a Variety sy’n archwilio nid yn unig y dirywiad aruthrol mewn pobl dosbarth gweithio yn y celfyddydau ers y 1970au, ond hefyd y diffyg atebolrwydd am hiliaeth yn niwydiant ffilm a theledu’r DU, yn pwysleisio pam mae storïau Cymreig yn cael anhawster torri drwy’r stereoteipiau. Mae’n bwysig, felly, y bydd eiliad o hanes cyfryngau Cymru yn ei gwneud hi i’r sgrin fawr yn Y Sŵn (Lee Haven Jones) yn 2023, gan y tîm a wnaeth Gwledd (2022). Gwledd (2022)Daw ar adeg dyngedfennol yn y dirwedd sinematig pan mae llawer o leoliadau’n wynebu cau yn dilyn Covid a’r argyfwng costau byw. Er mai cyfnod theatraidd cyfyngedig o bythefnos fydd ganddo cyn ei ddarlledu, sy’n her aruthrol, mae lleoliadau’n gweithio i hyrwyddo dylanwad y ffilm gymaint â phosibl yn eu cymunedau.   

(Delwedd: © London Recruits, Inside Out Films)

Efallai bod yr hen syniadau o Gymru yn cael eu herio nawr. Byddai rhaglenni dogfen a wnaed yng Nghymru sydd yn yr arfaeth, sy’n archwilio pynciau fel apartheid (London Recruits - Gordon Main, 2023) ac asiantaeth fodelu drawsryweddol gyntaf India (Being Hijra - Ila Mehrotra, 2023) yn awgrymu hynny, os ydym yn bachu’r cyfle i ddathlu cysylltiad pob ffilm â Chymru. Fel cynulleidfaoedd, mae’n rhaid i ni hefyd gynnal momentwm trwy gasglu fel cymuned yn ein sinemâu a gweiddi’n groch ynglŷn â beth rydym eisiau ei weld.

Nid y ddrama wannaf yn unig yw byd ffilm Cymru mwyach – mae’n fyd y dogfennol, ffuglen wyddonol, cyffro ac arswyd. Nid yw ychwaith yn cael ei wneud gan y rheiny a anwyd yma’n unig, mae’n cael ei wneud gan y rheiny sydd wedi gwneud Cymru yn gartref. Nid yw’r cartref hwnnw’n le o gymunedau caeedig mwyach, ond yn hytrach yn rhywle lle mae cynnydd yn digwydd.

Yn y dwylo cywir, gellir adrodd gymaint o storïau am ein cartref a’r bobl sy’n byw yma. Mae’r grym ganddynt i gyrraedd cynulleidfa eang ac amrywiol tu hwnt os galluogwn i’n cymunedau eu gweld a chymryd perchnogaeth. Mae hyn yn golygu bod angen i ni fuddsoddi yn yr adnoddau cywir ar gyfer sinemâu. Mae sinemâu yn fwy o lawer nag adeiladau lle dangosir ffilmiau. Maent yn fannau cyfeillgarwch a chwmnïaeth, a phrofiad a rennir. Mae sinemâu yn fannau lle gallwn ni feithrin pwy ydym ni, fel unigolion, cymunedau a chenhedloedd.

^
CY