Conwy
- Abergele Youth Shed
- Cinema Paradiso Film Club
- Llanfairfechan Community Hall
- Rowen Memorial Hall
- Trefiw Film club
Sir Ddinbych
Sir y Fflint
Gwynedd
Wrecsam
Ynys Môn
Awst 2025
I lawer o bobl sy'n hoff o ffilmiau, mae gyrru dros hanner awr i'w sinema agosaf yn gwbl arferol, ac rydyn ni'n gwneud hynny gan mai ar y sgrin fawr mae ffilmiau i fod i gael eu gwylio, ynte? I rai cynulleidfaoedd, nid yw hyn yn bosibl am lawer o resymau ac mae'r wefr o gael eu sgrin gymunedol leol eu hunain yn golygu eu bod yn gallu cael mynediad at ffilmiau yn fwy rheolaidd. Mae hefyd yn rhoi cyfle iddynt ddysgu'r sgil o ddewis ffilmiau, trefnu eu digwyddiadau eu hunain, neu adeiladu clwb ffilm rheolaidd.
Mae gennym bob math o sgriniau cymunedol yng Nghymru. O Neuaddau’r Glowyr, i nosweithiau ffilmiau mewn pentrefi, cymdeithasau ffilmiau sefydledig i ddigwyddiadau ffilmiau dros dro mewn llyfrgelloedd neu neuaddau tref. Mae rhai yn dangos ffilmiau bob mis ac eraill yn dangos ffilmiau ar thema arbennig o bryd i'w gilydd.
Os wnaethoch chi golli ein blogiau blaenorol ar wyliau aa sinemâu yng Nghymru, yna efallai nad ydych chi'n gyfarwydd â phwy ydym ni Canolfan Ffilm Cymru. Felly cyn i ni drafod sinemâu cymunedol Cymru – dyma’ch atgoffa chi mai ein gwaith ni yw cefnogi 'arddangoswyr' Cymreig o bob siâp a maint i ddod â ffilmiau rhyngwladol ac annibynnol gorau’r DU i gymunedau Cymru drwy gydol y flwyddyn. Rydym yn ariannu, hyfforddi a chynghori, gan gynnig cymorth iddynt lle bo angen.
Felly, beth yn union mae sinemâu cymunedol yn ei gynnig? Wel, rydyn ni'n falch eich bod wedi gofyn! Y peth gwych amdanyn nhw yw mai gwirfoddolwyr sy'n caru ffilm sy’n eu harwain fel arfer. Felly, os ydych chi hefyd yn caru ffilm, yna rydych chi'n mynd i gwrdd â llawer o bobl o'r un anian a gobeithio y cewch gyfle i wneud ambell i ffrind yno. Yn aml mae ganddynt gyfleusterau gwych, o'r sgrin i'r sain, i wneud eich profiad y gorau y gall fod.Cymerwch Sinema Gymunedol Dinas Powys yn Murchfield er enghraifft. Maent yn sgrinio ar ail ddydd Sadwrn bob mis ac maent wedi buddsoddi'n rheolaidd yn eu cyfleusterau o sgrin sefydlog y gellir ei dynnu'n ôl i daflunydd wedi'i osod ar y nenfwd, blwch rheoli newydd gyda dau chwaraewr Blu-ray / DVD, paneli nenfwd acwstig i ddileu'r adleisio, bleindiau ‘blackout’, a system seinyddion gwell! Ydi hyn yn eich plesio gymaint â ni?
Os ydych chi'n chwilio am y ffilmiau annibynnol gorau o bob cwr o'r byd, Cymdeithas Ffilm y Fenni yw'r ŵyl i chi. Clywsom si mai dyma'r gymdeithas ffilm fwyaf hirhoedlog yng Nghymru. Mynnwch eich aelodaeth yn gyflym – maen nhw bob amser yn gwerthu pob tocyn! Clwb arall sy'n adnabyddus am ei ddetholiadau gwych o ffilmiau yw Cymdeithas Ffilm Abergwaun, lle mae'r panel ffilmiau cymunedol yn helpu i ddewis ffilmiau yn yr hyfryd Theatr Gwaun yn Sir Benfro..
Rydyn ni, Canolfan Ffilm Cymru, wedi bod yn gweithio gyda Cherdd a Ffilm Cymunedol TAPE dros y blynyddoedd diwethaf i helpu i sefydlu sgriniau cymunedol newydd ledled y Gogledd fel rhan o'n prosiect Spotlight. Mae un o'r safleoedd, Sinema Llangoed (Neuadd Bentref Llangoed), wedi trawsnewid yn sinema o'r radd flaenaf gyda thaflunydd laser 4K Epson, system sain newydd, a sgrin sinema fformat mawr – yn ogystal â’r ffilmiau Cymraeg, annibynnol a rhyngwladol gorau!
Os ydych yng Ngogledd Ddwyrain Cymru, un na ddylid ei cholli yw Sinema Gymunedol Mynydd Helygain, gyda'i chefndir mynyddig hardd yn Sir y Fflint. Wedi'i sefydlu yn 2015, maent yn dangos ffilm bob dau fis yn Neuadd / Llyfrgell Plwyf Helygain gyda diodydd poeth, popcorn a bisgedi. Neu os ydych chi yn Sir Gaerfyrddin,, mae Sinema Sadwrn yn Llansadwrn yn dangos ffilmiau'n rheolaidd ar ddydd Gwener olaf pob mis. O glasuron i gomedi, dramâu i ffilmiau mewn ieithoedd tramor, animeiddiadau a ffilmiau dogfen, mae digon o ddewis. Maen nhw'n disgrifio’u digwyddiadau fel achlysuron cyfeillgar gyda’r dafarn drws nesaf yn lle am ddiod a sgwrs cyn / ar ôl ffilm.
Rydym hefyd yn ffodus i gael cefnogaeth nid un ond dau ddarparwr teithiol. Flicks in the Sticks a Moviola. Mae Flicks, sy'n trawsnewid neuaddau pentref a mannau cymunedol yn sinemâu dros dro, yn cael ei redeg gan Arts Alive yn ardaloedd Swydd Amwythig, Swydd Henffordd, y ffin a chanolbarth Cymru. Mae Moviola yn cynnig gwasanaeth rhaglennu ac archebu ffilmiau ar gyfer lleoliadau cymunedol yn ogystal â chynlluniau teithiol ledled y DU, gyda ffocws ar Dde-ddwyrain Cymru. Mae'r ddau sefydliad yn gweithio gyda phob math o weithredwyr yn y rhanbarthau hyn.
Os ydych chi'n chwilio am ddigwyddiadau arbennig sy'n mynd â chi i gestyll, clybiau a chanolfannau cymunedol Cymru, yna rydych chi'n bendant eisiau chwilio am Darkened Rooms. Hefyd un na ddylid ei cholli yw Cinema Golau – platfform ar gyfer gwneuthurwyr ffilmiau Du ac Ethnig Lleiafrifol sy'n dod i'r amlwg, sy'n dod â ffilmiau annibynnol rhyngwladol Du i lu o leoliadau lleol yng Nghymru.
Gyda dros 120 o ddarparwyr cymunedol i ddewis ohonynt, mae cymaint o argymhellion y gallem eu rhoi i chi. Gyda hynny mewn golwg, rydym wedi llunio rhestr lawn a map i helpu i ddod o hyd i'ch clwb neu ddigwyddiad lleol. Byddwn yn tynnu sylw atynt yn ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasolyn ogystal â lle gallwch ddod o hyd i'ch gŵyl agosaf a sinema llawn amser. Nodwch – nid ydym yn gysylltiedig â'r holl wefannau a restrir ac nid ydym yn gyfrifol am eu gweithgarwch. Edrychwch ar eu gwefannau lleol am fwy o wybodaeth am eu dangosiadau cyfredol. Mae llawer o sinemâu cymunedol yn cymryd seibiant dros yr haf ac yn dod yn ôl gyda rhaglen yr hydref o fis Medi ymlaen.
Os ydych chi'n rhedeg sgrin gymunedol a heb eich rhestru isod, efallai bod hyn oherwydd eich bod wedi'ch rhestru fel sinema neu ofod celfyddydau cymysg. Os hoffech gael eich ychwanegu (neu os hoffech gael eich tynnu o'r rhestr hon), cysylltwch â niByddem wrth ein boddau’n clywed gennych.
Gall arddangoswyr o Gymru hefyd ymaelodi â Chanolfan Ffilm Cymru am ddim a gwneud cais am gyllid datblygu cynulleidfaoedd yn ogystal â chael mynediad at hyfforddiant, rhwydweithio a chyngor.
Edrychwch ar wefannau'r sinema wefans for the am y wybodaeth ddiweddaraf..
*Organisations may be based outside of Wales and deliver across various Welsh locations.