Canolfan Ffilm Cymru yn penodi Swyddog Gwnaethpwyd yng Nghymru newydd i hyrwyddo ffilmiau Cymreig.

Mae Canolfan Ffilm Cymru wedi creu rôl arloesol newydd, ar gyfer hyrwyddo ffilmiau Cymreig a’r sinemau sydd yn eu dangos.

Mae Radha Patel yn ymuno gyda’r tîm fel y Swyddog Gwnaethpwyd yng Nghymru ar gyfnod holl bwysig wrth i’r diwydiant ffilm gynllunio ar gyfer dyfodol y tu hwnt i Covid-19. Gyda chefnogaeth gan Cymru Greadigol a’i ddatblygu mewn ymgynghoriad gyda’r diwydiant sgrin Cymreig, fe fydd y rôl arloesol newydd yma yn edrych ar ffyrdd i ddatblygu cynulleidfaoedd ar gyfer ffilmiau gyda chysylltiadau Cymreig.

Esboniodd Hana Lewis, Rheolwraig Strategol Canolfan Ffilm Cymru:

 “Mae’r diwydiant ffilm wedi wynebu heriau enfawr yn ystod y pandemig, o gau sinemau yn hir dymor a chanslo gwyliau, i oedi mewn amserlennu rhyddhau ffilmiau newydd. Mae ffilmiau Cymreig fel Six Minutes to Midnight Andy Goddard gyda Judy Dench a Dream Horse Euros Lyn gyda Toni Collette, yn ddwy enghraifft yn unig o’r ffilmiau sydd wedi cael eu heffeithio, gan golli incwm tocynnau hanfodol a hefyd cyfle i ddathlu straeon Cymreig. Rydym yn falch o groesawu Radha i’n tîm, i rôl sydd yn gallu cefnogi’r rhain a nifer o ffilmiau newydd eraill wrth iddyn nhw chwilio am lwybrau newydd i gyrraedd cynulleidfaoedd.”

Datblygwyd y rôl ar y cyd gyda Strategaeth Gwnaethpwyd yng Nghymru Canolfan Fffilm Cymru sydd wedi bod yn gweithio i ddathlu’r Gymraeg, a diwylliant a threftadaeth Cymru ar y sgrin ers 2014. Mae dros 700 o ffilmiau gyda chysylltiadau Cymreig ar wefan y Ganolfan, ynghyd ag ystafell rhagddangos ar-lein ar gyfer rhaglenwyr ffilmiau a dewis i wneuthurwyr ffilmiau gyflwyno eu ffilmiau ar gyfer cymorth hyrwyddo. Yn fwyaf diweddar cynhaliodd Canolfan Fffilm Cymru ymchwil i botensial brand Gwnaethpwyd yng Nghymru i hyrwyddo ffilmiau Cymreig yn rhyngwladol.

Dywedodd Gerwyn Evans, Dirprwy Gyfarwyddwr, Cymru Greadigol: 

“Rydym yn edrych ymlaen at adfer ein diwydiannau creadigol yn 2021. Mae ffilmiau wedi chwarae rôl mor allweddol mewn ein diddanu gartref yn ystod 2020, ond edrychwn ymlaen ar groesawu cynulleidfaoedd i’n sinemau unwaith eto. Yng Nghymru mae gennym dreftadaeth gyfoethog ac enw da cadarn o ffilm, gyda nifer o sinemau lleol yn aros i groesawu cynulleidfaoedd yn ôl. Dymunwn y gorau i Radha yn y rôl allweddol yma gyda Chanolfan Ffilm Cymru yn hyrwyddo ffilmiau Cymreig a sinemau yng Nghymru.” 

Dywedodd Claire Vaughan, Rheolwraig Rhaglen Canolfan Gelfyddydau Chapter yng Nghaerdydd:  

"Rydym yn falch bod Radha yn dechrau’r gwaith ar y rôl bwysig yma a fydd yn helpu i hyrwyddo ffilmiau Cymreig. Fe fydd y swydd yma yn ein galluogi i gysylltu gyda rhagor o wneuthurwyr ffilm ac aelodau cynulleidfaoedd sydd yn awyddus i glywed straeon Cymreig. Mae Radha yn artist talentog sydd yn rhoi pwyslais ar sut rydym yn esbonio ein hunain gyda straeon ac mae ei hymagwedd cynnes tuag at gynulleidfaoedd a’i dull proffesiynol gyda rhanddeiliaid yn ei gwneud yn benodiad ardderchog i’r rôl." 

Mae rolau blaenorol Radha yn cynnwys Swyddog Cyfathrebu yn Age Cymru a Swyddog Prosiectau ac Allgyrraedd i Gentle/Radical, corff celfyddydau cymdeithasol ymgysylltiedig yng Nghaerdydd. Mae gan Radha gefndir mewn datblygu cynulleidfa ac mae’n teimlo’n angerddol ynghylch sicrhau bod sinema yn hygyrch ac yn gynrychioliadol o bawb.

Ymchwanega Radha: 

“Rwyf bob amser wedi teimlo’n angerddol am sinema a sicrhau ei fod yn hygyrch i bawb. Fel y Swyddog Gwnaethpwyd yng Nghymru rwyf yn teimlo’n freintiedig i barhau i wneud hyn drwy sicrhau bod ffilmiau a gynhyrchir yng Nghymru, neu sydd â chysylltiadau Cymreig yn cael sylw haeddiannol gan gynulleidfaoedd yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Mae Cymru yn gartref i griwiau a thimau cynhyrchu anghygoel o dalentog, gwneuthurwyr ffilm ac awduron, actorion ac unigolion talentog sydd yn gweithio drwy gydol y flwyddyn i ddod â straeon yn fyw. Er mwyn eu hyrwyddo’n wirioneddol rhaid inni hefyd hyrwyddo cynulleidfaoedd Cymreig oherwydd mae’r straeon a ddywedwn yn perthyn i bob un ohonom"

Caiff Canolfan Ffilm Cymru ei arwain gan Chapter fel rhan o Rwydwaith Datblygu Cynulleidfa BFI. Diolch i gyllid y Loteri Cenedlaethol mae Canolfan Ffilm Cymru yn darparu portffolio eang o weithgareddau yn flynyddol gan gyflwyno rhagor o ffilmiau, i ragor o bobl, mewn rhagor o sinemau a gwyliau ffilm ar draws Cymru.

Diwedd.

Darllenwch y datganiad i’r wasg llawn yma

Lisa Nesbitt, Swyddog Datblygu, ar 02920 311 067 / lisa@filmhubwales.org

Hana Lewis, Rheolwraig Strategol ar 02920 353 740 / hana@filmhubwales.org

Am Canolfan Ffilm Cymru:

Nod Canolfan Ffilm Cymru ydy cyflwyno rhagor o ffilmiau i ragor o bobl mewn rhagor o leoedd o amgylch Cymru. Yn rhan o Rwydwaith Cynulleidfa Ffilm BFI, a gyda chefnogaeth cyllid y Loteri Cenedlaethol, mae Canolfan Ffilm Cymru yn rheolaidd yn datblygu ffyrdd dyfeisgar i bobl yng Nghymru fynd i’r sinema gyda’i leoliadau aelod annibynnol.

Mae Canolfan Ffilm Cymru yn un o wyth ‘canolfan’ DU gyfan, rhan o Rwydwaith Cynulleidfa Ffilm (FAN) BFI ac fe’i cefnogir gyda chyllid y Loteri Cenedlaethol gyda Chapter wedi’i benodi yn Gorff Arweiniol Canolfannau Film (FHLO) yng Nghymru. Ein nod ydy cyrraedd cynulleidfaoedd trwy ddatblygu’r sector arddangos, cynnig cefnogaeth prosiect ymchwil, hyfforddiant a datblygu cynulleidfaoedd. Ers sefydlu Canolfan Ffilm Cymru yn 2013 rydym wedi cefnogi dros 225 o brosiectau sinema a chyrraedd dros 465,000 o aelodau cynulleidfa

Rydyn ni hefyd yn falch o arwain ar strategaeth sinema cynhwysol DU ar ran FAN BFI.

Gwefan, Twitter, Facebook

Am Rhwydwaith Cynulleidfa Ffilm BFI

Gyda chefnogaeth arian y Loteri Genedlaethol, mae'r Rhwydwaith Cynulleidfas Ffilm BFI (FAN), yn ganolog i nod y BFI i sicrhau bod y dewis mwyaf o ffilm ar gael i bawb. Wedi'i sefydlu yn 2012 i adeiladu cynulleidfaoedd sinema'r DU ehangach a mwy amrywiol ar gyfer ffilmiau Prydeinig a rhyngwladol, mae FAN yn gydweithrediad unigryw, ledled y DU sy'n cynnwys wyth Canolfan a reolir gan sefydliadau ffilm a lleoliadau blaenllaw sydd wedi'u gosod yn strategol ledled y wlad. Mae FAN hefyd yn cefnogi datblygiad talent gyda Gweothredwyr Talent Rhwydwaith BFI ym mhob un o'r Canolfannau Saesneg, gyda chenhadaeth i ddarganfod a chefnogi awduron, cyfarwyddwyr a chynhyrchwyr talentog ar ddechrau eu gyrfaoedd.

Canolfannau Ffilm FAN BFI yw:

  • Arweinir Canolfan Ffilm Canolbarth Lloegr gan Broadway, Nottingham yn gweithio mewn partneriaeth â'r Flatpack o Birmingham
  • Arweinir Canolfan Ffilm y Gogledd ar y cyd gan Showroom Workstation, Sheffield a HOME Manchester
  • Arweinir Canolfan Ffilm De Ddwyrain gan yr Independent Cinema Office
  • Arweinir Canolfan Ffilm De Orllewin gan Watershed ym Mryste
  • Arweinir Canolfan Ffilm yr Alban gan Glasgow Film Theatre
  • Arweinir Canolfan Ffilm Gogledd Iwerddon gan Brifysgol Queen's, Belfast
  • Arweinir Canolfan Ffilm Cymru gan Chapter yng Nghaerdydd
  • Arweinir Canolfan Ffilm Llundain gan Film London

Gwefan

Am BFI

BFI ydy corff arweiniol y DU ar gyfer ffilm, teledu a’r delwedd symudol. Mae’n elusen diwylliannol sydd yn:

  • Curadu ac yn cyflwyno’r rhaglen gyhoeddus ryngwladol fwyaf o sinema byd i gynulleidfaoedd, mewn sinemau, gwyliau ac ar-lein
  • Yn gofalu am Archif Cenedlaethol BFI – yr archif ffilm a theledu mwyaf arwyddocaol yn y byd
  • Yn chwilio am y genhedlaeth nesaf o wneuthurwyr ffilm ac yn eu cefnogi,
  • Yn gweithio gyda’r llywodraeth a’r diwydiant i wneud y DU yn lle mwyaf creadigol gyffrous a ffyniannus i wneud ffilm yn rhyngwladol.

Wedi'i sefydlu ym 1933, mae'r BFI yn elusen gofrestredig a lywodraethir gan Siarter Frenhinol.

Gwefan, Facebook, Twitter

Am y Loteri Cenedlaethol

Diolch i chwaraewyr y Loteri Cenedlaethol, mae hyd at £600 miliwn o gyllid wedi ei ddarparu i gefnogi cymunedau ar draws y DU yn ystod y pandemig Coronafeirws.

Mae'r Loteri Cenedlaethol yn chwarae rhan hanfodol mewn cefnogi prosiectau, pobl a chymunedau yn ystod y cyfnod heriol yma.

Drwy chwarae'r Loteri Cenedlaethol, rydych yn gwneud cyfraniad rhyfeddol at yr ymateb cenedlaethol i frwydro yn erbyn effaith COVID-19 ar gymunedau lleol ar draws y DU.

Gwefan, Facebook, Twitter

Am Chapter

Mae Chapter yn un o ganolfannau celfyddydau mwyaf a mwyaf deinamig Ewrop gyda sinemau, theatrau, gofod arddangos, stiwdios a chaffi, bariau arobryn, dros 60 o ofod gweithio diwylliannol a rhagor.

Mae gan Chapter enw da rhyngwladol am ragoriaeth, arloesi a chydweithredu. Mae’n cynnig rhaglen newidiol barhaus o’r perfformiadau, ffilmiau ac arddangosfeydd gorau o Gymru ac o amgylch y byd.

Gwefan, Facebook, Twitter

Am Cymru Greadigol 

Yn asiantaeth mewnol Llywodraeth Cymru, mae Cymru Greadigol wedi ymrwymo i ddatblygu’r sector ffilm a theledu yng Nghymru gan ddarparu cymorth drwy eu cyllido, datblygu sgiliau a thalent ar gyfer cynyrchiadau buddsoddi mewnol a chartref. Ein cenhadaeth ydy gyrru twf ar draws y diwydiannau creadigol, adeiladu ar lwyddiant sydd eisoes yn bodoli a gosod Cymru fel un o’r lleoedd gorau i fusnesau creadigol ffynnu. 

Gwefan, Twitter 

^
CY