Archive, Access Action
Dyddiad Rhyddhau: Allan Nawr
Cysylltiadau Cymreig:Amrywiol
Pecyn o ffilmiau byrion a ddaeth o ganlyniad i brosiect ‘Cymru Anabl’ (2024) gan Archif Sgrin a Sain Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Fel rhan o’r prosiect, fe gomisiynwyd deunyddiau hygyrch ar gyfer y ffilmiau hyn, a hynny fel cam bach tuag at sicrhau bod ffilmiau archif yn hygyrch. Mae’r casgliad yn cynnwys ffilmiau dogfen creadigol sy’n canolbwyntio ar fywydau pobl Fyddar ac anabl, yn ogystal â dramâu ac animeiddiadau byrion. Roedd ‘Cymru Anabl’ yn brosiect gan Archif Sgrin a Sain Llyfrgell Genedlaethol Cymru mewn partneriaeth â Disability Arts Cymru, Cwmni Theatr Hijinx a TAPE: Cerdd a Ffilm Cymunedol, gyda chefnogaeth gan gronfa Treftadaeth Sgrin Loteri Genedlaethol y BFI.
H is for Hawk
Dyddiad Rhyddhau: 23 Ionawr 2026
Cysylltiadau Cymreig:John Giwa-Amu (cynhyrchydd), Caerdydd, Cymru (lleoliad ffilmio). Ariannwyd gan Gymru Greadigol gyda chefnogaeth gan Ffilm Cymru Wales.
Crynodeb:Yn olrhain stori wir Helen Macdonald (Claire Foy), sy’n colli ei thad y ffoto-newyddiadurwr uchel ei barch (Brendan Gleeson) o ganlyniad i drawiad ar y galon. Mae’r ffilm hon yn dangos y cysur annisgwyl mae Helen yn ei ddarganfod yng nghwmni gwyddwalch ystyfnig o’r gogledd o’r enw Mabel. Mae’r her o hyfforddi gwyddwalch ifanc yn dod yn ganllaw i Helen drwy’r broses alaru ac mae ei chysylltiad unigryw â Mabel yn ei hailgyflwyno i harddwch bywyd a byd natur.
Rabbit Trap
Dyddiad Rhyddhau: 30 Ionawr, 2026
Cysylltiadau Cymreig: Mad as Birds (cwmni cynhyrchu), wedi’i gosod yng Nghymru, stori am chwedloniaeth Tylwyth Teg Cymru.
Crynodeb: Wedi’i gosod ym 1973, mae Rabbit Trap yn stori’r cerddorion priod Daphne a Darcy Davenport, sydd wedi symud o Lundain i gaban ynysig yng Nghymru er mwyn cwblhau eu record newydd. Pan fyddant, ar ddamwain, yn gwneud recordiad maes o sain gyfriniol na chlywir erioed o'r blaen gan glustiau dynol, mae plentyn dieithr yn dod i mewn i'w bywydau ac yn eu rhyddhau yn raddol o realiti, a chyn bo hir mae'r cwpl yn cael eu hunain wedi'u dal rhwng ysbrydion hynafol y byd naturiol a'r bywydau yr oeddent yn eu hadnabod.
Black Church Bay
Dyddiad Rhyddhau:2026
Cysylltiadau Cymreig: Rhys Marc Jones (ysgrifennwr-cyfarwyddwr), Tom Cullen, Julian Lewis Jones, Celyn Jones (cast), ffilmiwyd ar Ynys Môn. Ariannwyd gan Gronfa Cynhyrchu Ffilm Nodwedd Ffilm Cymru Wales drwy’r Loteri Genedlaethol (a ddyrannir gan Gyngor Celfyddydau Cymru) a Chymru Greadigol.
Crynodeb:ffilm iasol a dirgel. Pan mae athro’n creu cysylltiad agos â dyn iau, mae ei fywyd yn datod yn llwyr. Archwiliad o’r ymdrech fyddwn yn ei wneud i guddio ein wir hunaniaeth.
Effi o Blaenau
Dyddiad Rhyddhau:2026
Cysylltiadau Cymreig: Marc Evans (cyfarwyddwr), Branwen Cennard (cynhyrchydd), Gary Owen (ysgrifennwr), Leisa Gwenllian, Tom Rhys Harries, Sion Eifion, Owen Alun, Nel Rhys Lewis, Mared Llywelyn, Carys Gwilym (cast), ffilmiwyd yn ei chyfanrwydd yng Nghymru. Ariannwyd gan Gymru Greadigol ac S4C. Ffilm Gymraeg ei hiaith.
Crynodeb:Pan mae Effi, sy’n ddi-waith, yn cwrdd ar hap â’r milwr Lee, sydd wedi’i anafu, mewn clwb nos yn Llandudno, mae drws yn agor i fywyd gwell am ennyd. Ond mae’r realiti sy’n dilyn yn llawer anoddach. Wrth iddi wynebu’r dyfodol fel darpar fam sengl mae stori Effi yn datgelu argyfwng cymdeithasol dwys: system heb ddigon o wardiau mamolaeth, prinder o fydwragedd a gormod o ddewisiadau amhosib sy’n cael ei gwneud allan o angenrheidrwydd yn hytrach na gofal.
Madfabulous
Dyddiad Rhyddhau: 2026
Cysylltiadau Cymreig:Celyn Jones (cyfarwyddwr), Lisa Baker (ysgrifennwr sgript), Callum Scott Howells (cast), Mad as Birds (cwmni cynhyrchu). Ariannwyd gan Gronfa Cynhyrchu Ffilm Nodwedd Ffilm Cymru Wales drwy’r Loteri Genedlaethol (a ddyrannir gan Gyngor Celfyddydau Cymru) a Chymru Greadigol.
Crynodeb:Pan fydd Henry Cyril Paget yn etifeddu ffortiwn enfawr, mae ei ffordd o fyw afradlon a’i ymddygiad ecsentrig yn arwain at adfail ariannol, a’i farwolaeth yn Ffrainc yn 29 oed, yn dlotyn ar ôl gwastraffu ei gyfoeth aruthrol.
On the Sea
Dyddiad Rhyddhau: 2026
Cysylltiadau Cymreig: Celyn Jones (actor), filmed in Anglesey, set in North Wales fishing community.
Crynodeb:Mae Jack wedi bod yn briod â Maggie am dros hanner ei oes. Mae'n gweithio fel cribiniwr â llaw ar y gwelyau cregyn gleision yng Ngogledd Cymru ochr yn ochr â'i frawd iau, Dyfan, a thri mab Dyfan. Mae Jack bob amser wedi cymryd yn ganiataol y bydd ei fab Tom yn ymuno â'r busnes teuluol ar ôl gadael yr ysgol ond mae gwrthwynebiad Tom i ddilyn y trywydd hwn yn creu tensiwn teuluol. Mae tensiynau'n cynyddu ymhellach gan ddyfodiad gweithiwr teithiol, Daniel, sy'n gwneud ei deimladau tuag at Jack yn amlwg. Yn y gymuned anghysbell, wledig hon lle mae bywyd yn ymwneud yn llwyr â’r Eglwys a physgota, mae Jack yn wynebu penbleth amhosibl.
Learning to Breathe Underwater
Dyddiad Rhyddhau:2026
Cysylltiadau Cymreig:Nan Davies (cyd-gynhyrchydd, One Wave Films). Ariannwyd gan Gronfa Cynhyrchu Ffilm Nodwedd Ffilm Cymru Wales drwy’r Loteri Genedlaethol (a ddyrannir gan Gyngor Celfyddydau Cymru) a Chymru Greadigol.
Crynodeb:Gan gyd-gynhyrchwyr y llwyddiant diweddar Kneecap, mae'r ffilm yn dilyn bachgen wyth oed (y newydd-ddyfodiad Ezra Carlisle) wrth iddo lywio bywyd ar ôl marwolaeth ei fam tra bod ei dad yn symud yn wyllt rhwng creadigrwydd manig a gor-bryder gwanychol. Mae dyfodiad ‘au pair’ o Fwlgaria (a chwaraeir gan Maria Bakalova), yn dod â newidiadau annisgwyl i'r aelwyd.
Mission
Dyddiad Rhyddhau: 2026
Cysylltiadau Cymreig:Lowri Roberts (cynhyrchydd). Ariannwyd gan Gronfa Cynhyrchu Ffilm Nodwedd Ffilm Cymru Wales drwy’r Loteri Genedlaethol (a ddyrannir gan Gyngor Celfyddydau Cymru) a Chymru Greadigol.
Crynodeb:Mae Mission yn archwiliad pync o’r seice sy’n dilyn yr ynysig Dylan (George MacKay) wrth iddo daflu hualau ei fywyd unig i ffwrdd mewn ymgais i brofi uchafbwyntiau ac isafbwyntiau bodolaeth ar ei eithaf, gan gychwyn ar daith wefreiddiol o ddarganfod ei hun. Darganfyddiad sy'n ysbrydoledig ac yn arswydus ar yr un pryd.
Out There
Dyddiad Rhyddhau: 2026
Cysylltiadau Cymreig:Simon Ryninks (cyfarwyddwr), Katie Dolan (cynhyrchydd), Aneurin Barnard, Michael Sheen, Iwan Rheon, Tom Moya, Nerys Amber Stocks, Remy Beasley, Matthew Aubrey (cast), ffilmiwyd yng Nghaerdydd, Porthcawl, Merthyr Mawr, Aberystwyth. Ariannwyd gan Gronfa Cynhyrchu Ffilm Nodwedd Ffilm Cymru Wales drwy’r Loteri Genedlaethol (a ddyrannir gan Gyngor Celfyddydau Cymru) a Chymru Greadigol.
Crynodeb:Ar ôl i Maz, merch 16 oed sy'n frwdfrydig dros seryddiaeth, weld UFO uwchben ei thref glan môr yng Nghymru, mae hi'n ymuno â'i ffrind gorau amheus a damcaniaethwr cynllwyn alltud i lansio ymchwiliad a fydd yn peryglu ei pherthnasoedd, a'i bywyd. Yn llawn drama twymgalon a throeon doniol, mae Out There yn ffilm gadarnhaol am gred, dod o hyd i ystyr a dod i delerau â cholled.
Proud
Dyddiad Rhyddhau: 2026
Cysylltiadau Cymreig:Rob Alexander (cynhyrchydd). Ariannwyd gan Gronfa Cynhyrchu Ffilm Nodwedd Ffilm Cymru Wales drwy’r Loteri Genedlaethol (a ddyrannir gan Gyngor Celfyddydau Cymru) a Chymru Greadigol.
Crynodeb:Mae'r ffilm ddogfen hon yn dilyn yr actor/awdur anabl David Proud. Mae e wedi dyheu am deulu erioed – ond mae’r technegau ffrwythlondeb sydd eu hangen arno wedi’u cynllunio i greu “plant iach” a diystyru pobl anabl fel ef.
Smoking Shores
Dyddiad Rhyddhau: 2026
Cysylltiadau Cymreig:Dewi Gregory (cynhyrchydd), Truth Department (cwmni cynhyrchu), Michael Sheen (cynhyrchydd gweithredol), Port Talbot (lleoliad ffilmio). Ariannwyd gan Gronfa Cynhyrchu Ffilm Nodwedd Ffilm Cymru Wales drwy’r Loteri Genedlaethol (a ddyrannir gan Gyngor Celfyddydau Cymru) a Chymru Greadigol.
Crynodeb: ffilm ddogfen yn dilyn grŵp caeedig o syrffwyr lleol drwy dirwedd anhygoel tref dur, Port Talbot.
Stuffed
Dyddiad Rhyddhau: 2026
Cysylltiadau Cymreig:Ffilmiwyd yn Ne Cymru. Ariannwyd gan Gronfa Cynhyrchu Ffilm Nodwedd Ffilm Cymru Wales drwy’r Loteri Genedlaethol (a ddyrannir gan Gyngor Celfyddydau Cymru) a Chymru Greadigol.
Crynodeb:Mae Araminta (Jodie Comer) yn dacsidermydd sydd â’r uchelgais gyfrinachol o stwffio sbesimen dynol. Pan mae hi'n cyfarfod y dyn unig Bernie (Harry Melling), maent yn creu cytundeb sy’n datblygu’n garwriaeth annhebygol.
The Scurry
Dyddiad Rhyddhau: 2026
Cysylltiadau Cymreig:Craig Roberts (cyfarwyddwr), Cliff Edge Pictures (cwmni cynhyrchu), Rhys Ifans (cast), ffilmiwyd yn Stiwdio’r Ddraig, Pen-y-bont.
Crynodeb:Mae The Scurry yn dilyn dau reolwr plâu sy'n cael eu galw i eco-gaffi mewn parc gwledig i ymchwilio i broblem fermin digon cyffredin. Wrth iddi nosi mae llu o wiwerod gwallgof yn glanio yno ac yn dial ar y staff a'r ymwelwyr yn y parc. Wrth i nifer o bobl farw, mae'r goroeswyr yn swatio yn y caffi rhag storm ofnadwy sy’n diffodd y pŵer a'r gallu i gyfathrebu, gan eu gadael yn ynysig ac o dan ymosodiad.
Unspeakable
Dyddiad Rhyddhau: 2026
Cysylltiadau Cymreig:Elwen Rowlands (cynhyrchydd), Little Door (cwmni cynhyrchu). Ariannwyd gan Gronfa Cynhyrchu Ffilm Nodwedd Ffilm Cymru Wales y Loteri Genedlaethol (a ddyrannir gan Gyngor Celfyddydau Cymru) a Chymru Greadigol.
Crynodeb:Mae cywilydd mam newydd am deimlo diffyg cysylltiad â'i babi yn denu drygioni hynafol, gan ei gorfodi hi i frwydr anobeithiol i achub ei phlentyn.