Wyth o Ffilmiau Cymreig yn dod i Sinemau yn 2022

© Censor (Picturehouse), Donna (Bohemia Media), Save the Cinema Limited 2021, India’s 1st Best Trans Model Agency (Ila Mehrotra), Rebel Dykes (Bohemia / BFI)
Iau, 13eg Ionawr

O’r ffilm arswyd Gymraeg, Gwleddwedi ei lleoli yn Eryri, i’r gymuned drawsrywiol yn Dehli Newydd yn y ddogfen
India’s 1st Best Trans Model Agency
 – mae wyth ffilm eclectig yn cyflwyno doniau a straeon Cymreig ar y sgrin fawr yn 2022.  

Mae’r wyth ffilm yn cynnig cyfle i gynulleidfaoedd ddarganfod rhywbeth newydd am Gymru, o straeon Cymreig lleol anadnabyddus fel y frwydr i achub sinema’r Lyric yng Nghaerfyrddin (Save the Cinema), i straeon byd-eang Cynghrair Genedlaethol Affrica sydd yn cael eu hadrodd drwy lygaid Cymry fel Gordon Main a John Giwa-Amu (Comrade Tambo’s London Recruits). 

Drwy eu llinyn Gwnaethpwyd yng Nghymru mae Canolfan Ffilm Cymru (FHW) yn gweithio gyda dosbarthwyr, sinemau Cymru a gwyliau ffilm i hyrwyddo’r ffilmiau i gynulleidfaoedd ehangach.

Dywedodd Hana Lewis, Pennaeth Canolfan Ffilm Cymru:   

Mae’r ffilmiau hyn yn dangos bod digon i’w ddarganfod am fywyd yng Nghymru, y tu hwnt i’n tirwedd gwledig. Mae gan wneuthurwyr ffilm Cymreig straeon sydd yn arwyddocaol yn fyd-eang i’w hadrodd sydd yn gallu ysbrydoli talent newydd a chynulleidfaoedd lleol. Drwy Gwnaethpwyd yng Nghymru mae gennym gyfle i ystyried sut y gall y ffilmiau a wnaethpwyd yn ein gwlad roi llais byd eang inni ac adeiladu’r diwydiant ffilm o’n cwmpas. Mae rhagor o ymwybyddiaeth o’r ffilmiau yma yn gallu bod yn fuddiol i’n synnwyr o gymuned a hunaniaeth diwylliannol.

Mae Cymru yn lle cynyddol gyffrous ar gyfer ffilm, gyda sgrptiau yn denu actorion fel Rebel Wilson (The Almond and the Seahorse) a Samantha Morton (Save the Cinema) i rolau amlwg a dim ond rhai o’r teitlau a ragwelwyd yn 2021 ydy’r rhain. Fe wnaeth FHW olrhain a chefnogi 27 o ffilmiau gyda chysylltiadau Cymreig rhwng 2019 a 2021.

Wrth i leoliadau weithio i adfer o’r pandemig – mae nifer o wneuthurwyr ffilm yn gobeithio y bydd cynulleidfaoedd yn mynd i weld y ffilmiau yma ar y sgrin fawr fel y bwriadwyd.

Dywedodd Roger Williams, awdur Gwledd:

Pe byddem yn ddigon eofn ynghylch adrodd ein straeon ar y sgrin fawr, fawr yma, gallem adeiladu’r math o ddiwylliant lle nad ydy hi’n anarferol gweld ffilmiau Cymraeg yn ein sinemau.

Ychwanegodd Delphine Lievens, Pennaeth Dosbarthu yn Bohemia Media:

Rydym yn falch o gyflowyno Donna i gynulleidfaoedd ar draws y DU yn ddiweddarach eleni. Mae Donna yn ffigur unigryw ac ysbrydo9ledig ac mae’n cael ei phortreadu mor gywir gan y tîm o wneuthurwyr ffilm Cymreig talentog y tu ôl i’r ffilm.

Gall cynulleidfaoedd dderbgyn y newyddion diweddaraf am ffilmiau i ddod ar wefan adran Gwnaethpwyd yng Nghymru Canolfan Ffilm Cymru neu trwy ddilyn @FilmHubWales ar y cyfryngau cymdeithasol.  

Mae Gwnaethpwyd yng Nghymru yn bodoli diolch i gyllid gan Cymru Creadigol a chyllid Loteri Cenedlaethol gan BFI (Sefydliad Ffilmiau Prydeinig) drwy ei Rwydwaith Cynulleidfa Ffilm (FAN). Mae Canolfan Ffilm Cymru yn datblygu cynulleidfaoedd ar gyfer ffilmiau Prydeinig annibynnol a ffilmiau rhyngwladol dryw gydol y flwyddyn – gweinyddir cyllid yng Nghymru gan Ganolfan Ffilm Cymru drwy Chapter fel y Corff Arweiniol Canolfannau Ffilm. Caiff dros 30M ei godi bob wythnos ar gyfer achosion da ar draws y DU gan y Loteri Cenedlaethol.

Darllenwch y datganiad i’r wasg llawn yma

-DIWEDD-

Am ragor o wybodaeth cysylltwch gyda: 

Am Ganolfan Ffilm Cymru 

Mae Canolfan Ffilm Cymru (CFfC) yn dathlu sinema. Rydym yn cefnogi cyrff sy’n dangos ffilmiau – o wyliau ffilmiau i gymdeithasau a chanolfannau celfyddydau cymysg. Wrth gyd-weithio gyda dros 315 o arddangoswyr ein bwriad ydy cynnig y ffilmiau Prydeinig a rhyngwladol gorau i bob cynulleidfa ar draws Cymru a’r DU. Ers sefydlu Canolfan Ffilm Cymru yn 2013 rydym wedi cefnogi dros 250 o brosiectau sinema a chyrraedd dros 480,000 o aelodau cynulleidfa.

Rydym yn rhan o rwydwaith DU gyfan o wyth canolfan sydd yn ffurfio’r Rhwydwaith Cynulleidfa Ffilm (FAN) BF gyda chefnogaeth cyllid gan y Loteri Cenedlaethol. Chapter ydy ‘Corff Arweiniol Canolfannau Ffilm yng Nghymru.

Rydym hefyd yn falch o arwain ar strategaeth sinema cynhwysol ar ran FAN BFI.

GwefanTwitterFacebook Instagram 

Am Rhwydwaith Cynulleidfa Ffilm BFI  

Gyda chefnogaeth arian y Loteri Genedlaethol, mae'r Rhwydwaith Cynulleidfas Ffilm BFI (FAN), yn ganolog i nod y BFI i sicrhau bod y dewis mwyaf o ffilm ar gael i bawb. Wedi'i sefydlu yn 2012 i adeiladu cynulleidfaoedd sinema'r DU ehangach a mwy amrywiol ar gyfer ffilmiau Prydeinig a rhyngwladol, mae FAN yn gydweithrediad unigryw, ledled y DU sy'n cynnwys wyth Canolfan a reolir gan sefydliadau ffilm a lleoliadau blaenllaw sydd wedi'u gosod yn strategol ledled y wlad. Mae FAN hefyd yn cefnogi datblygiad talent gyda Gweothredwyr Talent Rhwydwaith BFI ym mhob un o'r Canolfannau Saesneg, gyda chenhadaeth i ddarganfod a chefnogi awduron, cyfarwyddwyr a chynhyrchwyr talentog ar ddechrau eu gyrfaoedd.  

Canolfannau Ffilm FAN BFI yw:  

  • Canolfan Ffilm y Midlands dan arweiniad Broadway, Nottingham yn gweithio mewn partneriaeth gyda Flatpack Birmingham 
  • Canolfan Ffilm Gogledd Lloegr dan arweiniad Showroom Workstation, Sheffield a HOME Manceinion  
  • Canolfan Ffilm De Ddwyrain Lloegr dan arweiniad Swyddfa Sinema Annibynnol  
  • Canolfan Ffilm De Orllewin Lloegr dan arweiniad Watershed ym Mryste 
  • Canolfan Ffilm yr Alban dan arweiniad Glasgow Film Theatr  
  • Canolfan Ffilm Gogledd Iwerddon dan arweiniad Queen’s University Belfast  
  • Canolfan Ffilm Cymru dan arweiniad Chapter yng Nghaerdydd 
  • Canolfan Ffilm Llundain dan arweiniad Film London 

BFI FAN website 

Am BFI 
Rydym yn elusen diwylliannol, dosbarthydd y Loteri Cenedlaethol a chorff arweiniol y DU ar gyfer ffilm a’r ddelwedd symudol. Ein cenhadaeth ydy: 

  • cefnogi creadigrwydd a mynd ati i chwilio am y genhedlaeth nesaf o storïwyr y DU 
  • tyfu a gofalu am Archif Genedlaethol y BFI, archif ffilm a theledu mwyaf y byd 
  • cynnig yr ystod ehangaf o ddiwylliant delweddau symudol y DU a rhyngwladol drwy ein rhaglenni a'n gwyliau - a gyflwynir ar-lein ac mewn lleoliad 
  • defnyddio ein gwybodaeth i addysgu a dyfnhau gwerthfawrogiad a dealltwriaeth y cyhoedd 
  • gweithio gyda'r Llywodraeth a'r diwydiant i sicrhau twf parhaus diwydiannau sgrin y DU 

Wedi'i sefydlu ym 1933, mae'r BFI yn elusen gofrestredig a lywodraethir gan Siarter Frenhinol. 
Cadeirydd Bwrdd Llywodraethwyr BFI yw Tim Richards.  

Am Chapter 

Chapter ydy un o ganolfannau celfyddydau mwyaf, a mwyaf deinamig Ewrop gyda sinemau, theatrau, gofod arddangos, stiwdios a chaffi, bariau arobryn a dros 60 gofod gweithio diwylliannol a mwy. Mae gan Chapter enw da rhyngwladol am ragoriaeth, arloesi a chydweithredu. Mae’n cynnig rhaglen newidiol barhaus o ffilmiau ac arddangosfeydd gorau o Gymru ac o amgylch y byd. 

Gwefan, Facebook, Twitter 

Darllenwch fwy am Gwnaethpwyd yng Nghymru a'r Stori Gyfan
^
CY
Film Hub Wales | Canolfan Ffilm Cymru
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.