Dyfodol Canolfan Ffilm Cymru

© Cellb, WOW Women's Film Club, Off y Grid, Llancarfan Community Cinema
Chwefror 13, 2023

Diweddariad gan y Rheolwr, Hana Lewis

Hoffwn gychwyn drwy ddiolch i bob un ohonoch am roi o’ch amser i fynych cyfarfodydd a chwblhau holiaduron yn ystod 2022, wrth i’r BFI ddatblygu eu strategaeth, Screen 2023. Mae’r ffaith ein bod ni wedi dod ynghyd gyda’r un nod o gefnogi arddangos ffilm yng Nghymru yn destun balchder i ni ac rydym wir yn gwerthfawrogi eich amser.

ChapterBydd nifer ohonoch wedi clywed y cyhoeddiad diweddar gan y BFI bod Rhwydwaith Cynulleidfa Ffilm y BFI yn mynd i barhau tu hwnt i Ebrill 2023, fel rhan o’u Strategaeth 10 mlynedd Cyllid Loteri Genedlaethol. Mae’n bleser gen i rannu bod Canolfan Ffilm Cymru, gyda Chapter fel Sefydliad Arweiniol, yn un o 11 o bartneriaid strategol ledled y DU i dderbyn cyllid Loteri Genedlaethol gan y BFI i barhau i ddatblygu cynulleidfaoedd sinema ar gyfer ffilm annibynnol o’r DU a ffilm rhyngwladol.

Beth mae hyn yn ei olygu i Gymru? Bydd Canolfan Ffilm Cymru yn derbyn £895,500 dros dair blynedd (£286,900 bob blwyddyn). Bydd yr arian yn cael ei rannu rhwng datblygu sgiliau, ymchwil cynulleidfa, cyfathrebu, prosiect ‘sbotolau’ newydd a’r gronfa arddangos ffilm – a fydd yn cael ei ail lansio yn hwyr ym mis Mawrth / yn gynnar ym mis Ebrill. Bydd y bwrsari hyfforddi a’r potyn llain yn parhau i fod yn agored drwy gydol y flwyddyn, gyda chyllideb newydd ym mis Ebrill.

Rydym yn gwneud rhai newidiadau i’n rhaglenni yn seiliedig ar yr hyn ddwedoch wrthym yn ystod y cyfnod ymgynghori a’r heriau sy’n wynebu’r sector arddangos. Rydym yn bwriadu cynnal sesiynau rhaglennu ar-lein bob chwarter er mwyn cael cyfle i sgwrsio am y ffilmiau diweddaraf. Rydym yn bwriadu dod at ein gilydd yn fwy aml, gan gynnwys digwyddiad blynyddol lle gallwn rannu syniadau. Yn ogystal, rydym yn siarad ag Archif Sgrin a Sain Cymru ynglŷn â mynediad at gynnwys Cymraeg ac yn archwilio beth fyddai costau digideiddio teitlau allweddol.

Being Hijra
Being Hijra

Mae ein prosiect Gwnaethpwyd yng Nghymru (sy’n dathlu ffilmiau gyda chysylltiad Cymreig) yn cael ei gyllido tan 31 Mawrth 2023 ar hyn o bryd. Rydym wrthi’n gweithio ar gynllun cyllido ar gyfer y dyfodol, gyda ffilmiau megis Being Hijra a London Recruits yn ein calendr. Byddwn hefyd yn cydweithio â’n partneriaid Ffilm Cymru Wales / BFI Network Cymru i gefnogi gwneuthurwyr ffilmiau newydd ledled y DU.ain 2023 ar hyn o bryd. Rydym wrthi’n gweithio ar gynllun cyllido ar gyfer y dyfodol, gyda ffilmiau megis Being Hijra FAN BFI a London Recruits yn ein calendr. Byddwn hefyd yn cydweithio â’n partneriaid Ffilm Cymru Wales / BFI Network Cymru i gefnogi gwneuthurwyr ffilmiau newydd ledled y DU.

Byddwn yn cydweithio â BFI Film Academy Plus, sydd newydd ei gyhoeddi fel y cynnig addysgiadol mewn canolfannau ledled y DU, a fydd yn helpu’r rheiny sydd rhwng 16 a 25 mlwydd oed i ffilmio llwybrau gyrfa a diwylliant. Bydd y cynnig yn cael ei redeg yng Nghymru gan Chapter a bydd cyllideb yn cefnogi dosbarthiadau meistr, dangosiadau a bwrsarïau. Bydd y cynllun yn helpu ffans ffilm ifanc i ddysgu am y diwydiant, gwylio sinema ddiwylliannol, dod i adnabod eu canolfannau lleol a datblygu sgiliau fel gwneuthurwyr ffilmiau a churaduron annibynnol.

Bydd rhagor o weithgareddau ar draws y Rhwydwaith Cynulleidfa Ffilm ehangach – byddwn yn trafod y rhain yn yr wythnosau nesaf wrth i’r cynlluniau cael eu sefydlu.

Yn olaf, mae’n flin gennym gyhoeddi bod prosiect RhCFf Sinema Cynhwysol (SC) yn dod i ben ym mis Mawrth. Mae gymaint o waith yn dal i’w wneud, ond rydyn ni’n falch iawn o’n huchelgais a’n cyfraniadau. Hoffem ddweud diolch o galon i bartneriaid a chynghorwyr SC. Rydym yn ffarwelio â Toki Allison, Rheolwr Prosiect talentog SC, wrth iddi symud ymlaen i rôl newydd gyffrous. Yn ystod wythnosau olaf y prosiect beth am achub ar y cyfle i ddefnyddio adnoddau newydd ardderchog, gan gynnwys Trans Loving Care a sinema Dosbarth-Gweithiol. Byddwn yn rhoi diweddariad dros y misoedd nesaf ynglŷn â sut i gael mynediad at yr adnoddau a grëwyd dros gyfnod y prosiect.

Rydyn ni’n gobeithio’n fawr y bydd modd i chi ymuno â ni yn Hub Helo yng Nghastell y Gelli, 23ydd Mawrth, lle byddwn yn siarad am y flwyddyn i ddod.

Tan hynny – sinema am byth!

 

^
CY