Yn dilyn ymlaen o’n hymchwil data ffilmiau Cymreig, sy’n rhedeg ers 2019, fe wnaethom gomisiynu Delphine Lievens i edrych yn fanwl ar 13 o ffilmiau a ryddhawyd rhwng Ebrill 2022 a Mawrth 2023, gyda’r bwriad o ddadansoddi sut y perfformiwyd hwy mewn sinemâu a sut gyfrannodd ein cefnogaeth ni i ryddhau’r ffilmiau.
Fe fydd y crynodeb gweledol yn rhoi blas i chi o’r canfyddiadau (gweler isod neu lawrlwythwch y PDF yma). Darllenwch yr adroddiad os gwelwch yn dda ar gyfer manylion llawnach.