Mae’r Gronfa yn cefnogi arddangoswyr ffilmiau annibynnol i ddatblygu cynulleidfaoedd ar gyfer ffilmiau annibynnol y DU, ffilmiau rhyngwladol a delweddau byw.
Gwybodaeth, cyfleoedd, canllawiau a ffurflenni cyflwyno.
Ymgeisiwch am gyllid i ddangos ffilmiau annibynnol o’r DU, ffilmiau rhyngwladol a delweddau byw i gynulleidfaoedd ledled Cymru, neu am fwrsari ar gyfer cyfleoedd hyfforddi, digwyddiadau, neu wasanaeth ymgynghori a fydd yn ehangu eich sgiliau fel arddangoswr ffilmiau.
I gael cyllid gan Ganolfan Ffilm Cymru rhaid i chi ddod yn aelod. Gallwch ymuno am ddim – i ymaelodi, cwblhewch ein Ffurflen Ymaelodi.
© Delwedd: Hijinx Unity Festival
Mae’r Gronfa yn cefnogi arddangoswyr ffilmiau annibynnol i ddatblygu cynulleidfaoedd ar gyfer ffilmiau annibynnol y DU, ffilmiau rhyngwladol a delweddau byw.
Dysgwch sut rydym yn cefnogi ffilmiau, dangosiadau a gwneuthurwyr ffilmiau sydd yn dathlu Cymru.
Rydym yn cefnogi gwyliau ffilmiau sy’n rhedeg rhaglenni o ffilmiau annibynnol o’r DU a ffilmiau rhyngwladol, drwy Gronfa Arddangos Ffilmiau (GAFf). Gweler trosolwg o wyliau Cymreig isod.
Ymgeisiwch am fwrsari ar gyfer cyfleoedd hyfforddi, digwyddiadau ac ymgynghoriaeth. Byddwch yn ehangu ar eich sgiliau fel arddangoswr ffilmiau ac yn buddio’ch sefydliad.
Dewch o hyd i ysbrydoliaeth ar gyfer eich rhaglen drwy dymhorau thematig blaenorol a guradwyd gan Ganolfan Ffilm Cymru neu ar draws BFI FAN.
Pob blwyddyn mae yna ‘Brif Raglen’, sef tymor y DU gyfan y gall aelodau BFI FAN dderbyn cyllid ar ei gyfer: