Rhanbarth: Gogledd Cymru
TAPE (Old Colwyn):
Gan weithio’n agos gyda’u partneriaid, fe fydd TAPE yn ailgychwyn dangosiadau sinema wythnosol i gefnogi eu cymuned. Gan ganolbwyntio ar ynysigrwydd cymdeithasol, iechyd meddwl a llesaint, mae TAPE yn cynnig amrywiaeth o raglenni ymgysylltu a chefnogol i helpu pobl i gadw mewn cysylltiad.
Fe fydd amrywiaeth ar gael, o ffilmiau newydd Cymreig i ddigwyddiadau dan arweiniad ieuenctid a dangosiad o Sanctuary mewn partneriaeth gydag asiantaeth paru lleol newydd i bobl gydag anabledd dysgu. Mae TAPE hefyd yn gartref i Ŵyl Ffilm Arfordir, Academi Ffilm BFI, digwyddiadau sinema awyr agored graddfa fawr a gŵyl ffilm cynhwysiant.
Gwefan Twitter, Facebook
Rhanbarth: Gogledd Orllewin Cymru
CellB (Blaenau Ffestiniog):
Fe fydd Gwallgofiaid Cellb yn ailgysylltu cynulleidfaoedd ym Mlaenau Ffestiniog gyda’r byd ehangach, ôl Covid-19, drwy archwilio diwylliant a newid hinsawdd ar y sgrin. Eu nod ydy creu gofod diogel lle y gall y gymuned deithio’r byd drwy ffilm, ar bris fforddadwy. Fe fyddan nhw’n dechrau’n lleol gyda hanes Cymru ac yn tywys cynulleidfaoedd i ieithoedd a diwylliannau cudd. Fel menter yn cael ei arwain gan ieuenctid, maen nhw’n gweithio i ehangu mynediad i’r celfyddydau i bobl ifanc yn y Blaenau a hefyd yn cefnogi eu cynulleidfaoedd oedrannus drwy ddangosiadau hygyrch rheolaidd, fforymau a phecynnau rhodd i’w cadw mewn cysylltiad yn ystod y cyfnod clo.
Gwefan Twitter, Facebook
Theatr y Ddraig (y Bermo):
Ymagwedd diogel tuag at ddychweliad cynulleidfaoedd i Theatr y Ddraig, y Bermo drwy gynnwys amrywiol ffilmiau nad yw’n brif ffrwd. Gan ddefnyddio bargen archebu Banc Ffilmiau i ddangos wyth o ffilmiau rhwng Ioanwr a Mawrth, fe fyddan nhw’n cynnig 12 sedd pob dangosiad gyda ‘swigod’ yn eu seddi llawr a’r balconi. Cyflwynir ffilmiau i gynulleidfaoedd hŷn gyda swigod llai gan alluogi cynulleidfaoedd rheolaidd a newydd i fwynhau profiad sinema yn Eryri unwaith etol.
Gwefan Twitter, Facebook
Galeri a Phrosiect Ieuenctid Galeri (Caernarfon):
Mae gweithgaredd yn cynnwys map ffordd Galeri wrth iddyn nhw baratoi i ailagor y rhaglen sinema: Ymgysylltu > ymestyn allan > cynllunio > rhaglennu >ailagor. Maen nhw’n parhau i ddatblygu hygyrchedd gydag amrywiaeth o ddangosiadau ymlacedig, rhaglennu LGBT+ dan arweiniad ieuenctid, yr ŵyl ffilm PICS i gynulleidfaoedd ifanc, BSL, ymgyrchoedd marchnata gyda chefnogaeth a’r nod o ddod yn Makaton gyfeillgar erbyn 2021.
Fe fydd cynulleidfaoedd wrth galon y broses o wneud penderfyniadau wrth i’r lleoliad ailagor, gan alluogi pobl i gymryd rhan yn y datblygiad ôl covid-19.
Fe fydd Galeri hefyd yn cymryd rhan mewn peilot blwyddyn dan arweiniad Film London o’r enw Cynllun Cenhedlaeth Cynulleidfaoedd Ifanc a fydd yn profi cynllun tocynnau annibynnol DU gyfan i gynulleidfaoedd ifanc 16-25 oed.
Gwefan Twitter, Facebook
Neuadd Ogwen (Bethesda):
Fe fydd Neuadd Ogwen, Bethesda, yn cynnig dangosiadau ffilm gan gadw pellter cymdeithasol, steil cabaret gyda gwasanaeth bwrdd ar gyfer grwpiau wedi’u trefnu o flaen llaw pan fyddan nhw’n ailagor. Fe fyddan nhw’n cynnig amgylchedd ddiogel, ymlacedig i gartrefi estynedig i ailgysylltu a mwynhau ffilmiau gyda’i gilydd.
Wrth i Bethesda gyrraedd ei 20fed penblwydd, gall cynulleidfaoedd ddisgwyl rhywfaint o ddathlu drwy ffilmau o Gymru yn ogystal ag amrediad o ffilmiau ar themâu cyfeillgar i’r teulu, amgylcheddol ac anturus.
Gwefan, Twitter, Facebook
Canolfan Ucheldre Centre (Caergybi):
Nod Canolfan Ucheldre ydy ysbrydoli cynulleidfaoedd gyda chyfres o ddangosiadau ffilm cyffrous, amrywiol ac ysbrydoledig yn cynnwys y 6ed Gŵyl Ffilm SeeMôr. Fe fydd cyfleoedd i gymryd rhan mewn gwneud penderyfniadau wrth i’r lleoiad ailagor.
Fe fydd y gymuned yn cael profi amrediad o wahanol ddiwylliannau a persbectifau ar sgrin, wedi’u curadu gan raglennwr lleol o gefndir lleiafrifol gyda phrofiad bywyd.
Gwefan, Twitter, Facebook
Rhanbarth: Gogledd Orllewin Cymru
Ffilm Wicked Wales / Grŵp Cymunedol P&M (y Rhyl):
Yn ogysal ag ailgychwyn eu sinema cymunedol, mae Wicked Wales wedi symud eu gŵyl ieuenctid ar-lein yn Hydref 2020. Rhaglen o ffilmiau byr wedi’u gwneud gan bobl ifanc a’r ffilmiau Prydeinig a rhyngwladol diweddaraf i gynulleidfaoedd yn y Rhyl a thu hwnt.
Fe fydd gan ysgolion a grwpiau ieuenctid fwydlen o weithgareddau i ddewis ohonyn nhw, yn cynnwys gweithdai Into Film a ffilmiau Cymreig. Maen nhw’n chwilio am wneuthurwyr ffilm ifanc yng Nghymru drwy sefydliadau addysg, cyrff hyfforddi, diwydiant a pjhartneriaid cenedlaethol i ddwyn ynghyd casgliad o ffilmiau ar gyfer cystadleuaeth Gymreig yn unig a fydd yn rhan o ddiwrnod ‘Ffilmiau newydd o Gymru’ ym mis Mawrth 2021.
The Wales Youth Festival Network and Ffilm Ifanc are led by Wicked Wales, a youth organisation for young filmmakers
Gwefan, Twitter, Facebook
Rhanbarth: De Ddwyrain Cymru
Canolfan Gelfyddydau’r Memo (y Bari):
Fe fydd Canolfan Gelfyddydau’r Memo yn y Barri yn creu gweithgareddau ‘Sgwigen sgrin fawr’ fforddiadwy pan fyddan nhw’n ailagor, gyda’r bwriad o groesawu cynulleidfaoedd newydd a hen. Fe fydd ymwelwyr yn edrych ar y sgrin mewn swigod gan gadw pellter cymdeithasol, sydd wedi eu creu gan ystyried hygyrchedd a llesiant creadigol. Fe fydd crefftau digidol ar gael ar-lein ac i’w cymryd ymaith, ynghyd â bagiau trit i deuluoedd neu oedolion yn cael eu gweini i seddi ar steil cabaret. Fe fydd y Ganolfan yn gwrando ar ac yn ymgorffori adborth gan eu cynulleidfaoedd wrth iddyn nhw lunio strategaethau rhaglennu newydd ac amrywiol ôl Covid-19.
Gwefan, Twitter, Facebook
Theatr y Savoy (Trefynwy):
Mae’r Savoy hanesyddol yn Nhrefynwy, sydd ar y safle theatr hynaf yng Nghymru, yn aneulu i ailagor ar gyfer digwyddiadau sinema dethol o ddiwedd Hydref. Mae’n nhw’n gweithio’n galed i ailgysylltu gyda chynulleidfaoedd yn ystod y pandemig ac fe fyddan nhw’n cyflwyno detholiad o ffilmiau gyda chysylltiadau Cymreig i gynulleidfaoedd ifanc a hen fel ei gilydd, yn cynnwys ffilmiau gyda chefnogaeth BFI Saint Maud ac Eternal Beauty.
Gwefan, Twitter, Facebook
Rhanbarth: Gorllewin Cymru
Sinema’r Commodore (Aberystwyth):
Mae’r Commodore yn Aberystwyth yn sinema deulu mewn tref prifysgol yn cynnig profiad sinema am y tro cyntaf i nifer o bobl ifanc. Fe fyddan nhw’n cyflwyno rhaglen o ffilmiau prif fftrwd, Prydeinig a rhyngwladol i gynulleidfaoedd ôl Covid-19 i gefnogi cymunedau lleol, gwledig yn cynnwys pobl ifanc o oedran cynradd i fyfyrwyr.
Gwefan, Twitter, Facebook
Magic Lantern (Tywyn):
Fe fydd y tîm yn ailgynnau’r Lantern Hud gan gyflwyno rhaglen gyffrous ac amrywiol o ffilmiau o ganol Hydref i ddiwedd Mawrth gan gynnig cyfle i gynulleidfaoedd ailddarganfod bywyd ar ochr arall y byd tra hefyd yn adlewyrchu bywydau, sefyllfaoedd a chariad pobl leol.
Fe fydd dangosiadau o 50 o leiaf o ffilmiau Annibynnol, Prydeinig neu Byd ochr yn ochr â rhaglen prif ffrwd yn adlewyrchu ac yn parchu amrywiaeth a dyheadau eu cynulleidfa. Wedi addasu y gofod, maen nhw’n gobeithio cynnig digwyddiadau hygyrch, gwyrddach, fforddiadwy ar gyfer cynulleidfaoedd ôl Covid-19. Eofn, dewr a goleudy i’r dyfodol.
Gwefan, Twitter, Facebook
Rhanbarth, De Orllewin Cymru
Theatr y Torch (Aberdaugleddau):
Mae’rTorch yn gobeithio ailgynnau angerdd dros ffilmiau ac ailgysylltu gyda’u cynulleidfaoedd amrywiol, hen a newydd, gan annog dychwelyd i’r sinema ar ôl bod wedi cau am 7 mis. Gan ddefnyddio marchnata digidol.a thraddodiadol a’u rhwydweithiau cymunedol, eu nod ydy cefnogi ac ysbrydoli cynulleidfaoedd sydd wedi’u tangynrychioli ac sydd yn hyglwyf tra’n datblygu’r genhedlaeth nesaf o gynulleidfa sinema. Gall cynulleidfaoedd ddisgwyl llinyn ffilmiau ac atgofion, Gŵyl Into Film ochr yn ochr gyda’u rhaglen llysgennad ifanc a chymysgedd eclectig o dymhorau ar themâu arbenigol.
Gwefan, Twitter, Facebook
Theatr Gwaun (Abergwaun):
Fel sinema gymunedol yng nghanol Sir Benfro wledig, mae Theatr Gwaun yn bwriadu ailagor fel sinema o ganol Tachwedd gan gynnig rhaglen o ffilmiau o 6 o ddangosiadau gan gadw pellter cymdeithasol bob wythnos. Gan adlewyrchu amrywiaeth eu rhaglen ffilm, fe fydd Gwaun yn cynnig dangosiadau gyda chefnogaeth o ffilmiau newydd a hen ffefrynnau i’r rhai gyda rhwystrau o deithio i gost phroplemau cymdeithasol ehangach. Gall cynulleidfaoedd ddisgwyl nosweithiau digwyddiadau, adolygiadau cynulleidfa a chyfle i gymryd rhan mewn fforymau ar-lein.
Gwefan Twitter, Facebook
Rhanbarth: Cymry Gyfan
Gŵyl Ffilm WOW:
Fe fydd WOW yn agor eu hugeinfed gŵyl ar Ddiwrnod Rhyngwladol Menywod gydag dangosiad Clwb Ffilm WOW ar-lein a thrafodaeth panel dan arweiniad Dr Nilu Ahmed. Nod eu gŵyl fyw o 10-12 o ffilmiau yn Aberystwyth a Kinokulture a digwyddiadau ar-lein, fydd ailgysylltu gyda’u cynulleidfaoedd ffyddlon a chynnig rhaglen ar-lein ‘talwch beth rydych chi eisiau’ o ffilmiau newydd DU a digwyddiadau i gynulleidfaoedd unrhyw le yng Nghymru ac yn DU gyfan.
Fe fyddwn nhw’n rhedeg llinyn ‘y gorau o WOW’ y gall y gynulleidfa bleidleisio arno cyn yr ŵyl gan eu galluogi i ddylanwadu yn uniongyrchol ar y rhaglen ffilm. Fe fyddan nhw’n gweithio gyda chynulleidfaoedd amrywiol sydd prin yn cael eu gweld fel ffoaduriaid a cheiswyr lloches, i gydgreu digwyddiadau a chynnal trafodaethau ochr yn ochr gyda’r ffilmiau.
Gwefan, Twitter, Facebook