Rydyn ni bron hanner ffordd drwy 2025 yn barod, ac yn dechrau meddwl am 2026-29 (fel rhan o strategaeth Diwylliant Sgrîn 2033 BFI). Gyda’n Hub Helo blynyddol fis Mawrth nesaf yn teimlo’n bell i ffwrdd, rydyn ni am wneud amser ar gyfer Haia.
Rydyn ni’n trefnu dau gyfarfod i drafod rhai o’r pethau sy’n fwyaf heriol i chi, yn ogystal â thrafod y cyfleoedd hynny y gall Canolfan Ffilm Cymru eich helpu chi gyda dros y blynyddoedd nesaf. Byddwn hefyd yn cychwyn holiadur i gasglu ychydig o adborth ychwanegol.
Byddwn yn cloi pob digwyddiad gyda dangosiad o’r ffilm a Wnaethpwyd yng Nghymru, Brides drama am y ffoaduriaid Doe a Muna sy’n teithio i Syria i gychwyn bywyd newydd (gan Gynyrchiadau ieie). Cynhelir digwyddiadau Hub Haia yn Pontio (2 Medi) a Neuadd Gwyn (4 Medi).
Rydyn yn gweithio hefyd ar ddiwrnod llawn o ragddangosiadau yn ddiweddarach yn y flwyddyn ariannol.
Pryd / Ble:
Mae’r digwyddiad hwn yn ecsgliwsif i aelodau Canolfan Ffilm Cymru.